main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Innovative ‘learning glass’ technology is among the cutting-edge methods being used to deliver virtual programmes at a leading college

Mae Canolfan Brifysgol Coleg Cambria yn defnyddio cyfarpar o’r radd flaenaf i baratoi myfyrwyr ar gyfer astudio ar lefel uwch drwy gyflwyno darlithoedd ar-lein, ac mae myfyrwyr yn elwa’n fawr o hynny.

Mae’r Diploma Lefel 3 mewn Mynediad i Addysg Uwch (AU) – Gofal Iechyd llawn amser ac am ddim ar gael yng Nglannau Dyfrdwy ac Iâl yn Wrecsam. Dim ond un enghraifft ydy hon o gwrs sy’n defnyddio systemau modern i gefnogi pobl i ymuno â gwersi o gartref neu’r gweithle.

Mae Gemma Ible, Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer cyrsiau Mynediad ac Addysg Uwch yn Cambria, yn paratoi i agor derbyniadau ar gyfer y rhaglen boblogaidd i garfan mis Ionawr ac mae wrth ei bodd gyda’r adborth hyd yn hyn.

“Y ffordd rydyn ni’n cyflwyno’r cyrsiau sy’n gwneud Cambria yn wahanol. Rydyn ni’n gallu cynnal rhaglenni o safon uchel a sicrhau addysgu rhithwir o’r safon uchaf oherwydd y dechnoleg sydd gennym ni ar waith. Yn arbennig, y byrddau golau LED, neu ‘learning glass’,” meddai.

“Mae grwpiau yn parhau i gael eu haddysgu gan berson go iawn, ond mae’n rhoi teimlad o fod mewn ystafell ddosbarth. Mae’n rhyngweithiol iawn ac yn ennyn diddordeb, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.”

Dywedodd Gemma: “Mae’r cwrs Mynediad i AU – Gofal Iechyd wedi’i anelu at oedolion sy’n gweithio yn y sector iechyd yn barod, y rhan fwyaf ohonyn nhw â swydd, felly rydyn ni’n gwbl hyblyg.

“Efallai eu bod nhw’n rhieni hefyd, felly mae caniatáu iddyn nhw dreulio un diwrnod yn yr ystafell ddosbarth a gweddill yr amser yn dysgu’n ‘fyw’ ar-lein neu yn ystod eu hamser eu hunain yn hanfodol.

“Dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno derbyniadau mis Ionawr, oherwydd dydi hi ddim bob amser yn hawdd i rieni neu ofalwyr gyda phlant ymuno ym mis Medi. Mae’n fis prysur gyda llawer o blant yn mynd yn ôl i’r ysgol ac mae eu sylw nhw’n rhywle arall.”

Gyda’r rhaglenni Mynediad yn anelu at oedolion sydd â chyflogaeth eisoes, dywedodd Gemma eu bod nhw’n gam perffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau symud ymlaen yn eu gyrfaoedd dewisol.

“Gan ystyried y rhaglen Gofal Iechyd, dim cymhwyster ychwanegol yn unig ydi hwn, bydd yn arwain y rhai sy’n ei gwblhau i’r brifysgol – mae ein cyfradd llwyddo o ran hynny’n uchel iawn – ac i ystod o swyddi proffesiynol gan gynnwys nyrsio a bydwreigiaeth, addysgu, ffisiotherapi, ac unrhyw swydd broffesiynol gysylltiedig â gofal iechyd,” meddai.

“Mae galw enfawr am weithwyr medrus, cymwysedig yn y sector, a pheidiwch â phoeni os dydych chi ddim yn meddwl bod gennych chi’r cymwysterau angenrheidiol, rydyn ni hefyd yn ystyried profiad.

“Mae ein ffordd arloesol o wneud pethau yn sicr wedi gwneud gwahaniaeth ar ôl y pandemig. Mae wedi rhoi hwb i’n dysgwyr ac fe fyddwn ni’n datblygu ac yn adeiladu ar hynny yn rhagor yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth ar yr ystod eang o gyrsiau Mynediad i AU yng Ngholeg Cambria, ewch i’r adran Canolfan Brifysgol ar y wefan: www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost