main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

healthcarecadets

Mae rhaglen Cadetiaid Gofal Iechyd a chafodd ei lansio gan Goleg Cambria a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn denu diddordeb gan ddysgwyr posib ledled y gogledd ddwyrain yn dilyn ei lansiad fis Medi diwethaf.

Mae’r rhaglen wedi’i lleoli yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae aelodau o’r grŵp cyntaf – bob un o safle Iâl y coleg – ar leoliad gwaith ac ar eu hail flwyddyn wedi ennill profiad ar wahanol wardiau llawfeddygol a meddygol.

Roedd y cadetiaid yn gallu dewis pa ddisgyblaeth benodol yr oeddent am ei dilyn – gan gynnwys Damweiniau ac Achosion Brys, gynaecoleg, ac ar wardiau Plant – ac o fid Ionawr byddant yn gallu cynorthwyo staff mewn unedau gofal critigol a chanser.

Mae dros 40 o fyfyrwyr ar draws y ddwy flynedd, dywedodd y tiwtor arweiniol Stefanie Matthews bod y cwrs yn dod yn fwy poblogaidd gydag ymgeisydd gwryw a benyw sy’n frwdfrydig i gael gyrfa yn y sector iechyd.

“Rydyn ni wedi adeiladu ar y seiliai sydd wedi’u gosod dros y 15 mis diwethaf, felly mae’r rhaglen wedi gwella ac yn cynnwys ystod ehangach o feysydd,” meddai hi.

“Mae gan ddysgwyr ar y flwyddyn gyntaf y fantais o allu ennill adborth a chyngor gan y rhai sydd ar eu hail flwyddyn, gallant dawelu eu meddwl a’u mentora nhw am yr hyn sydd i’w ddisgwyl o ran natur gweithio mewn ysbyty, yr amgylchedd a’r pwysau sy’n dod gyda hynny.

“Byddwn yn parhau i dyfu’r rhaglen fel bod yr ysbyty a’r Cadetiaid yn elwa, rŵan ac yn hir dymor, gan y bydd llawer ohonynt yn mynd ymlaen i weithio i’r GIG ac mewn swyddi gofal iechyd yn y dyfodol.”

Mae’r rhaglen yn cyfuno amser yn yr ystafell ddosbarth gydag un diwrnod yr wythnos ar wardiau gwahanol, mae’r dysgwyr yn astudio ar gyfer Lefel 3 CBAC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn Egwyddorion ac Ymarfer Gwyddoniaeth Feddygol CBAC, a Chymhwyster Craidd Lefel 2 City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae gan Cambria ystod o gyrsiau eraill mewn iechyd a gofal cymdeithasol hefyd.

Mae Vicky Edwards, Is-bennaeth Astudiaethau Technegol y coleg, wrth ei bodd gyda sut mae’r fenter beilot wedi symud yn ei blaen ac mae hi’n falch o sut mae Cambria yn helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys a staff meddygol yn ystod cyfnod critigol ar gyfer y GIG yn dilyn y pandemig.

Dywed Vicky bod cynlluniau ar y gweill ar gyfer proses Cadetiaid Gofal Cymdeithasol ac ychwanegodd hi: “Rydyn ni wedi gweithio’n galed gyda’n gilydd i greu rhaglen sydd yn union yr hyn sydd ei angen ar yr ysbyty ac ein dysgwyr, felly rydyn ni wrth ein bodd gyda pha mor llwyddiannus mae wedi bod hyd yn hyn.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i allu cyrchu’r sector a bod yn werthfawr i’r sector mae’r rhaglen yn cyflwyno ar ei chyfer.”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.cambria.ac.uk neu anfonwch e-bost at enquiries@cambria.ac.uk. Fel arall, ffoniwch 0300 30 30 007.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost