main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Kevin

Cafodd cyfres o heriau a digwyddiadau eu cynnal ar gyfer Ysbyty Plant Alder Hey yn Lerpwl. Cafodd y rhain eu harwain gan Reolwr Profiad Dysgwyr a Menter Cambria Rona Griffiths, a Steven Mills sef y Swyddog Llyfr Pryniadau.

Gwnaeth dysgwyr a chyflogwyr o Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Llaneurgain gasglu dros £1,500 wrth wneud gweithgareddau fel raffl hamper a stondinau Nadoligaidd ym Marchnad Nadolig Cambria y llynedd.

Cafodd eu hymgyrch ei ysbrydoli gan farwolaeth Kirsten Hill – merch swyddog cynnwys creadigol y coleg sef Kevin Hill – a fu farw’n drasig o Lewcemia Myeloid Aciwt ym mis Tachwedd, yn ddim ond 14 oed.

Bydd y cyfanswm a godwyd yn cael ei rannu rhwng Uned Gofal Dwys yr ysbyty a Chanolfan Profedigaeth Snowdrop.

“Roedd y driniaeth, y gofal a’r gefnogaeth a gafodd Kirsten a ninnau fel teulu yn anhygoel,” meddai Kevin, sy’n byw gyda’i wraig Lynsey a’i ferch hynaf Katie – myfyriwr yn Chweched Dosbarth Iâl – yn Wrecsam.

“Ar ôl mynd yn sâl a chael ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam, cafodd Kirsten ei symud i Alder Hey ac yn anffodus, ar ôl brwydr fer iawn gyda Lewcemia Myeloid Aciwt, bu farw ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.

“Wrth gwrs rydyn ni wedi torri ein calonnau, Kirsten oedd goleuni ac enaid ein teulu, roedd yn golled drom iawn i ni ac mi fydd am byth ac rydyn ni’n ei methu hi bob dydd.”

Ychwanegodd: “Hoffem ni ddiolch i’r ffrindiau a’r teulu sydd wedi codi miloedd o bunnoedd o roddion ar gyfer yr ysbyty plant.

“Roedd y staff yn Alder Hey yn wych, fe wnaethon nhw drin Kirsten gydag urddas a pharch – fyddwn ni byth yn anghofio eu caredigrwydd.”

Gall pobl barhau i gyfrannu i’r ysbyty a rhedodd grŵp o ffrindiau a theulu yn cynrychioli ‘Tîm Kirsten’ – gan gynnwys cydweithwyr o adran farchnata Cambria – sydd wedi rhedeg ras 5K Race for Life yng Nghaer yn ddiweddar er budd Cancer Research UK.

Ar ran y coleg mae Rona yn canmol y myfyrwyr a’r staff a gefnogodd eu hapêl.

“Roedden ni i gyd mor drist dros Kevin a’i deulu ac eisiau helpu mewn unrhyw ffordd posib,” meddai.

“Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni; Mae Cambria yn gymuned gynnes a chroesawgar, ac yn amgylchedd o gariad a chefnogaeth, felly doeddwn i ddim yn synnu gweld pobl yn dod at ei gilydd ac yn dangos cymaint o ymrwymiad i’r achos anhygoel yma.”

Ychwanegodd Adam Dixon, Rheolwr Rhedeg a Heriau, Elusen Plant Alder Hey: “Ar ran pawb yn Alder Hey hoffem ni ddiolch yn fawr iawn i staff a myfyrwyr Coleg Cambria am eu hymdrechion i godi arian.

“Mae rhoddion yn helpu i ddarparu ystod o offer a chyfleusterau meddygol sy’n achub bywydau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd bob dydd ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth yn fawr.”

I wneud rhodd a chefnogi’r apêl, ewch i www.kirstenhill.muchloved.com.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost