main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae Darlithydd Trin Gwallt Casey Adlard a Stephanie Parry, sy’n Asesydd Therapi Harddwch, wedi ymuno â’r tîm yn Salon Iâl.

Byddan nhw wedi’u lleoli yn y salon ar safle Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam yn yr adeilad Hafod sydd werth £21 miliwn. Maen nhw’n edrych ymlaen at y dyfodol ac mae ganddyn nhw dros 30 mlynedd o brofiad i roi ar waith yn y sefydliad sydd wedi ennill gwobrau.

Dywedodd Casey, sydd o Gilgwri, fod y ddau ohonyn nhw wrth eu boddau i gael dechrau arni ar ôl y cyfnod heriol mae’r diwydiant trin gwallt a harddwch wedi’i wynebu yn ystod pandemig y Coronafeirws.

“Mae’r tîm wedi gweithio’n eithriadol o galed i sicrhau bod y dysgwyr yn gwneud cynnydd ac yn bodloni eu nodau,” meddai.

“Dwi wrth fy modd yn torri a steilio felly dwi’n edrych ymlaen at hynny, a byddwn ni’n cyflwyno sesiynau cyfoethogi ar siafio lliain poeth ar gyfer barbwyr a manwerthu uwch ar gyfer trinwyr gwallt. Mae hynny ymysg cymwysterau technegol eraill sydd ar flaen y datblygiadau yn y maes.”

Roedd Casey yn Gyfarwyddwr Celfyddydol yn Toni and Guy – mae ei wraig Angela a’i ferch Hermione yn ei gefnogi’n fawr – dywedodd Casey: “Mae Stephanie a minnau yn gyffrous iawn i fod yma, mae’r cyfleusterau yn anhygoel ac mae agwedd y dysgwyr ac ethos yr holl staff yn rhagorol hefyd.”

Mae Stephanie yn byw yn Swydd Amwythig gyda’i phartner Darren a’i merch Darcie, ac mae hi’n cytuno gyda Casey ar hynny.

Yn y gorffennol mae hi wedi gweithio fel therapydd yn Sir Fôn, ac mae ganddi lu o wybodaeth ar ôl iddi weithio gyda Steiner Transocean, Champney’s a gwestai Hilton.

Yn ogystal â hyn oll, roedd Stephanie yn Rheolwr Sba yng ngwesty moethus Carden Park yn Sir Gaer pan gafodd cyfleusterau’r sba eu hailwampio am £10 miliwn yn 2019.

“Dwi wedi cyffroi’n lân i gael ymuno â’r tîm yn Cambria a dwi wedi bod yn breuddwydio am addysgu o fewn y sector harddwch ers tro byd,” meddai hi.

“Dwi wedi bod yn lwcus iawn o fod wedi cael swyddi gwych sydd wedi helpu i gyfrannu at yr hyn dwi’n gallu ei roi yn ôl i’r myfyrwyr, felly pan ddaeth y cyfle yn Cambria roedd hi’n anodd peidio mynd amdani.

“Mae heriau Covid-19 yn golygu bod angen i ni weithio’n galed i wneud i’n diwydiant edrych yn ddeniadol i ddarpar fyfyrwyr a llwyddo i oresgyn y gofynion mae’r diwydiant yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

“Fedrai dystio am y cyfleoedd gyrfa wych sydd i’w cael yn y diwydiant a dwi’n credu y bydd Salon Iâl ar ei wedd newydd yn darparu’r llwyfan perffaith i fyfyrwyr gyfuno gwaith ac addysg, bydd hyn yn ardderchog ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Dywedodd Vicky Edwards, sef Is-bennaeth Astudiaethau Technegol: “Mae Stephanie a Casey wedi cael effaith gadarnhaol ers ymuno â’r coleg yn y flwyddyn newydd ac maen nhw’n ychwanegu llu o arbenigedd o’r diwydiant i’n tîm o ddarlithwyr ac aseswyr trin gwallt a harddwch dawnus.

“Yng Ngholeg Cambria rydyn ni’n awyddus i weithio ochr yn ochr â chyflogwyr i sicrhau ein bod ni’n rhoi’r sgiliau diweddaraf o’r diwydiant i’w darpar weithwyr, gan gyfoethogi’r cwricwlwm safonol gyda siaradwyr gwadd ac arddangoswyr sy’n arwain y diwydiant i sicrhau eu bod nhw’n ‘barod ar gyfer y salon’ ar ddiwedd eu hyfforddiant gyda ni.

“Ein nod allweddol ydi datblygu gweithwyr proffesiynol sydd â sgiliau, safonau gwasanaeth cwsmer a thechnegau manwerthu rhagorol; bydd Stephanie a Casey yn ein helpu ni i adeiladu enw da fel un o addysgwyr gorau’r wlad yn y sector yma.”

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at info@ialsalon.co.uk neu i weld y newyddion diweddaraf ac am ragor o wybodaeth gan Goleg Cambria ewch i www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost