main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Hairdressing Salon 'ial Salon' at the Yale site in Wrexham

Mae’r gostyngiad mewn tymheredd a lleithder sy’n digwydd yn yr Hydref yn gallu sychu’r croen. Rydym yn dueddol o dreulio rhagor o’n hamser dan do yn ystod y cyfnod hwn lle mae’r gwres canolog a rheiddiaduron yn sychu’r croen hyd yn oed yn rhagor.

Yn ystod misoedd yr Haf mae pigmentiad yn gallu ffurfio yn y croen ac mae’r croen yn dueddol o greu rhagor o olew na’r hyn sy’n arferol, ac yn llenwi gydag olew o ganlyniad mae digennu’r croen yn hanfodol.

Mae Daily Milkfoliant gan Dermologica wedi’i brofi’n glinigol i lyfnhau’r croen yn ofalus gyda 90% o ddefnyddwyr yn nodi llyfnder sylweddol i’w croen ar ôl un defnydd yn unig.

Mae’r fformiwla fegan hon yn dod mewn potel a wnaed gyda 50% o blastig wedi’i ailgylchu gan olygu ei fod yr un mor garedig i’r blaned ac ydyw i’r croen. Mae mymryn o ddŵr yn trawsnewid y powdr hwn i fod yn ewyn hufennog, cyfoethog sy’n cael gwared ar y celloedd croen marw yn ofalus.

Gyda phris manwerthu a argymhellir o £59 am 74g, mae Salon Iâl / Salon Cambria yn cynnig y cynnyrch hwn am bris arbennig o £50.

Wrth i ni symud i’r hydref dylai ein trefn gofal croen ddarparu hydradiad er mwyn ailgyflenwi’r lleithder y gallai’r croen fod wedi’i golli yn ystod gwres eithafol yr haf.

Rhowch gyfle i’ch croen adfywio a chadw lleithder gan ddefnyddio Hyaluronic Ceramide Mist o Dermalogica i hydradu eich croen i’r eithaf. Dyma gynnyrch sy’n hydradu am gyfnod hir gan esmwytho llinellau mân ac yn cryfhau rhwystrau naturiol y croen. Mae’r cynnyrch maethol hwn yn cynnwys pedwar math o Asid Hyalwronig sy’n helpu’r croen i gadw gafael ar ddŵr gan sicrhau bod eich croen yn cael ei hydradu am gyfnod hir, yn ystwyth ac yn gallu gwrthsefyll straen.

Fel arfer mae gan y cynnyrch anhygoel hwn bris manwerthu a argymhellir o £45 am 150ml ond mae’n cael ei gynnig am £38.26

I brynu ewch i Salon, Iâl neu Salon Cambria, Glannau Dyfrdwy. Fel arall gallwch ein ffonio ni ar 01978 267650 / 01978 267006 Neu 01978 267650 / 01978 267006 a https://www.ialsalon.co.uk/.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost