main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae Jess Downes, o Dywyn, yn dal i ddod dros y sioc o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gystadleuaeth genedlaethol sy’n cael ei chynnal yng Nghasnewydd ym mis Mai eleni.

O ystyried ei bywyd bob dydd fel dysgwr yng Ngholeg Cambria a pheiriannydd cynnal a chadw dan brentisiaeth yn ffatri Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, mae’n cyfaddef bod rhai pobl yn meddwl bod ei phenderfyniad i gystadlu yn y pasiant harddwch yn un braidd yn rhyfedd.

Ond bwriad Jess, 23, oedd yn arfer bod yn aelod o griw caban awyren, yw “torri’r mowld” ac mae’n gobeithio chwifio’r faner dros y ddau sefydliad tra’n codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr elusen fyd-eang, Beauty With A Purpose.

“Mae llawer o bobl yn dal i feddwl bod y gornestau hyn yn hen-ffasiwn ond maen nhw’n wahanol iawn erbyn hyn, gan ganolbwyntio ar rymuso menywod ifanc, creu cyfleoedd, ffeministiaeth a gwneud gwahaniaeth,” meddai Jess, sy’n cael ei chefnogi gan ei mam Sarah, ei thad Russell a’i brawd wyth oed, Olly.

“Roedd hynny wir yn apelio ata’i, ond i ddechrau, gan fy mod i’n treulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn gweithio gyda cherbydau, roedd llawer o bobl yn cael trafferth cysoni’r ddau fyd yma!

“Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig torri’r mowld a cheisio gweld a gwneud pethau’n wahanol, i herio’ch hun a herio stereoteipiau.

“Gyda chefnogaeth Coleg Cambria – sy’n noddi fy ymgyrch Miss Wales – a Toyota, does dim dwywaith y galla’i wneud yn dda, ond y peth pwysicaf yw cynrychioli’r holl ferched ifanc eraill allan yna a allai wynebu rhwystrau rhyngddyn nhw a’u dewis yrfa.”

Yn ei harddegau, brwydrodd Jess gyda phroblemau iechyd meddwl ac anorecsia, ond fe wnaeth hi ymladd yn ôl ac erbyn hyn mae’n teimlo’n fwy heini, yn gryfach ac yn hapusach nag erioed.

Cafodd ei tharo’n galed gan y pandemig, a gorfododd hynny iddi ailfeddwl ynglŷn â beth oedd gan y dyfodol i’w gynnig. Yn sgil ei hoffter o bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a TGCh, penderfynodd ddilyn llwybr prentisiaeth, ac nid oes ganddi unrhyw fwriad i edrych yn ôl.

“Rwy’n mwynhau pob eiliad ac mae pawb mor groesawgar a chymwynasgar,” ychwanegodd.

“Mae’n amgylchedd sy’n cael ei reoli gan ddynion yn draddodiadol, ond yr unig ffordd y bydd hynny’n newid yw os bydd mwy o ferched ifanc yn dangos awydd i wneud gwahaniaeth a manteisio ar y cyfle i ymuno â’r diwydiant hwn.

“Fe wnes i ddilyn fy ngreddf pan glywais am y brentisiaeth, a’r un peth gyda Miss Wales; weithiau mae’n rhaid i chi fynd amdani.

“Rwy’n falch ’mod i wedi gwneud hynny ac yn edrych ymlaen at rannu fy neges yn ystod y misoedd nesaf – gallwch wneud unrhyw beth os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn rhoi eich meddwl arno.”

Ategwyd y sylwadau hyn gan Kelvin Hand, Swyddog Hyfforddiant Technegol yn Sefydliad Technoleg Cambria yng Nglannau Dyfrdwy.

“Rydyn ni’n falch dros ben o’i chyflawniadau yn y gystadleuaeth ac yn falch iawn o’r gwaith mae hi’n parhau i’w wneud yn y coleg,” meddai Kelvin.

“Mae hi’n gaffaeliad ac yn esiampl go iawn i’r rhaglen, ac mae angen pobl fel Jess i ysbrydoli mwy o ferched ifanc i fentro i faes peirianneg.”

Ewch i’r dudalen JustGiving i noddi Jess: www.justgiving.com/fundraising/jessica-downes12.

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost