Mae Coleg Cambria Llysfasi a BionerG o Langollen wedi dechrau “cydweithrediad arloesol” i edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio malurion coed fel adnodd hanfodol ar gyfer cael gwared ar garbon yng Nghymru.
Mae’r coleg wedi cyflenwi’r ‘malurion’ – canghennau a dail sydd fel arfer yn cael eu taflu o ganlyniad i waith coedwigaeth a thywydd stormus – ac mae BionerG yn prosesu’r cynnyrch gan ddefnyddio dull arloesol sy’n cynnwys torri coed o ganghennau ac yna eu sychu yn eu hunedau pyrolysis arbenigol yng Nghanolfan ECKO (Allgymorth Gwybodaeth Garbon Ecoleg) yn Sir Ddinbych, cyfleuster sy’n ymroddedig i gynhyrchu bio-olosg ac addysg amgylcheddol.
Mae bio-olosg yn fath o siarcol a gynhyrchir trwy broses o’r enw pyrolysis, lle mae deunydd organig fel biomas yn cael ei gynhesu ar dymheredd uchel yn absenoldeb ocsigen.
Mae’r broses hon yn creu deunydd mandyllog sy’n gyfoethog o ran garbon y gellir ei ddefnyddio fel gwelliant i’r pridd ac sy’n gweithredu fel sbwng ar gyfer dŵr a maetholion, gan wella strwythur y pridd ac atafaelu carbon.
Dywedodd Dewi Jones, Rheolwr Fferm yng Ngholeg Cambria Llysfasi y byddai’r fenter yn defnyddio pren gwastraff ac yn helpu i addysgu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a gweithwyr coedwigaeth ac amaethyddol ar reoli tir.
“Rydym yn y camau cynnar ond yn y tymor hir byddwn yn bendant yn gweld y manteision ar ôl i’r pren droi’n fio-olosg gan iddo gael effaith gadarnhaol ar niwtraliaeth garbon ac ar faethu’r pridd,” meddai Dewi.
“Maen nhw’n gwmni sy’n meddwl ymlaen yn fawr, a dyma enghraifft arall o Lysfasi yn croesawu technegau newydd, cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd ac arloesedd.”
Bydd BionerG yn cynnal digwyddiadau agored ddydd Gwener, 18 Gorffennaf a dydd Sadwrn, 19 Gorffennaf ar ‘Sut i Ddiogelu Eich Fferm ar gyfer y Dyfodol’ ac maen nhw’n awyddus i glywed gan raddedigion diweddar a phobl ifanc sy’n dod i mewn i’r sector a all archwilio cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Wrth edrych ar y bartneriaeth â Choleg Cambria fe ddywedodd y cyfarwyddwr Chris Clarke fod eu cyfleusterau a’u technoleg yn dileu’r heriau logistaidd o gasglu, cludo a phrosesu malurion coed er mwyn “gwella ei ddefnyddioldeb ar gyfer cynhyrchu bio-olosg yn sylweddol”.
Ychwanegodd: “Gallai hyn ddatgloi potensial economaidd ac ecolegol newydd, gan droi sgil-gynnyrch coedwigaeth yn elfen ganolog o arferion amaethyddol cylchol ac adferol.”
“Yn ôl ein hastudiaethau rhagarweiniol gallwch ddefnyddio hanner cymaint o wrtaith os ydych chi’n ei gymysgu â bio-olosg, felly mae manteision ariannol ac amgylcheddol enfawr yn ôl ein profion cynnar.
“Nid oes unrhyw fusnes arall yn y sector hwn yn gweithio yn y ffordd rydyn ni gyda’r tîm yn Llysfasi, a bydd hynny, wrth iddo barhau i ddatblygu, yn profi’n ffrwythlon i’r ddwy ochr.
“Maen nhw’n defnyddio’r bio-olosg ar gyfer eu tir, ac mae’n offeryn addysgol – a bydd y digwyddiadau agored yn ymchwilio ymhellach i hyn – mae manteision i ffermwyr a thirfeddianwyr presennol a’r dyfodol i fanteisio ar y broses a’r dechnoleg hon.”
Wrth annog graddedigion i fynychu’r sesiynau sydd ar y gweill yng Nghanolfan ECKO, dywedodd Chris: “Rydym yn clywed yn rheolaidd fod plant o deuluoedd ffermio, ar ôl iddyn nhw raddio yn edrych i redeg busnesau effeithlon a chynaliadwy gan gynnwys ymchwilio i gyfleoedd i arallgyfeirio incwm yn ogystal â lleihau costau.
“Gallwn helpu gyda hynny gan fod grantiau ar gael os yw’r ffermydd hyn yn dangos eu bod nhw’n symud tuag at ddod yn fwy cynaliadwy gan fod defnyddio llawer llai o wrtaith yn eu rhoi nhw mewn sefyllfa gadarn iawn – rydym ni’n annog pobl i gysylltu i gael gwybod mwy ac i ddod i weld sut y mae’r cyfan yn gweithio.”
Am ragor o wybodaeth ar BionerG a’r digwyddiad sydd ar y gweill ewch i Biochar | Community | Sustainability | Consultancy ac edrych ar y gyfres ddiweddaraf o fideos ar eu sianel YouTube: Got To Make Enough Biochar – YouTube. Fel arall anfonwch e-bost at chris@bionerg.com.