main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae dysgwyr Coleg Cambria Mirain Gwyn, Lisa Fanson, Elin Roberts ac Abbie Griffiths yn barod i astudio Addysg Gynradd trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor o fis Medi.

Mae eu hymrwymiad i warchod yr iaith a helpu i lenwi bwlch ar gyfer rhagor o athrawon dwyieithog mewn ysgolion ledled y wlad wrth i Lywodraeth Cymru osod targed i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae’r pedair yn astudio cymwysterau Safon Uwch – gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf – ar safle Iâl Cambria yn Wrecsam.

Mae Mirain, Elin ac Abbie wedi llwyddo i sicrhau tair allan o 40 ysgoloriaeth i astudio’r radd ym Mangor, wedi iddyn nhw ragori yn eu harholiadau mynediad.

Maen nhw’n edrych ymlaen at ymuno â’r proffesiwn addysgu yn y dyfodol.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n ceisio annog y genhedlaeth ieuengaf am yr iaith a’r diwylliant sy’n dod gyda bod yn Gymraeg,” meddai Abbie, o Wrecsam, cyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd.

Ychwanegodd Mirain, o Ruthun, cyn-ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd: “Dwi’n sicr yn teimlo ei fod yn fwy pwysig nag erioed bod y swyddi addysgu yma yn cael eu llenwi er mwyn pasio’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf ac i ddatblygu addysg Gymraeg, er mwyn iddyn nhw gael yr un cyfleoedd â ni.”

Mae Lisa o Lyndyfrdwy yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Dinas Bran Llangollen, ac Elin, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd Wrecsam, yn diolch i ddarlithwyr yn y coleg am eu harwain a’u hysbrydoli nhw i ddilyn y llwybr yma.

“Dwi’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi a fy helpu dros i ddwy flynedd diwethaf,” meddai Lisa.

“Dwi’n gyffrous i ddechrau’r daith newydd yma ochr yn ochr â fy ffrindiau a dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod rhai newydd yn y brifysgol.”

Ychwanegodd Elin: Dwi’n edrych ymlaen at ddechrau ym Mangor, yn enwedig gyda’r wynebau cyfarwydd yma.

“Mae’r holl staff a’r darlithwyr wedi bod mor barod eu cymwynas ac mor gefnogol yn ystod ein hamser yma – fedrwn ni ddim diolch digon iddyn nhw.”

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwrsariaeth £5,000 a fydd ar gael i athrawon sydd wedi ennill Statws Athro/Athrawes Cymwys o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o addysgu Cymraeg neu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y fwrsariaeth ar gael i ddechrau tan Hydref 2028 i asesu ei lwyddiant wrth annog athrawon i ymuno â’r proffesiwn ac aros ynddo.

Ochr yn ochr â hyn, agorwyd ail rownd y grant meithrin gallu gweithlu cyfrwng Cymraeg, gyda chyfanswm cronfa o £800,000. Mae’r cynllun yma yn darparu grantiau bach i ysgolion fel y gallan nhw ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys heriau recriwtio.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Un o’n prif flaenoriaethau er mwyn cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg ydi sicrhau bod gennym ni ddigon o athrawon i fodloni’r galw am ddysgu yn Gymraeg.

“Bydd y pecyn cymorth yn cadarnhau ein gweithlu addysg Cymraeg ac yn sicrhau bod rhagor o bobl yn gallu cymryd mantais o’r cyfleoedd gyrfa gyffrous sydd ar gael.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost