main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Coleg Cambria northop campus business school image

I ddathlu Wythnos y Ddaear (Ebrill 16-22), mae dysgwyr Rheolaeth Anifeiliaid o Goleg Cambria, Anna Grimaldi a Lucy Windsor-Jones, wedi trefnu cynhadledd ac arddangosfa o’r enw Buddsoddi yn ein Planed.

Trefnir y noson gan ysgol Fusnes Llaneurgain y coleg o 6.30pm nos Fercher Ebrill 19, a bydd y noson yn codi arian i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

Roedd Anna, o Ruthun, a Lucy o Fodelwyddan, eisiau darparu cyd-ddisgyblion Lefel 4 a Lefel 5 ar y rhaglen HND gyda llwyfan i arddangos prosiectau sy’n agos at eu calonnau – gan gynnwys cyflwyniadau ar ailgoedwigo yng Nghosta Rica a hynt ein cefnforoedd – wrth roi cyfle i sefydliadau lleol a chenedlaethol arddangos gwybodaeth, rhwydweithio ac adeiladu partneriaethau sy’n canolbwntio ar gadwraeth a’r amgylchedd.

“Bydd hwn yn ddigwyddiad pwysig, nid yn unig yn academaidd ond wrth ddod â’r gymuned a diwydiant ynghyd o dan yr un to i dynnu sylw at y ffyrdd gorau y gallwn ni fuddsoddi yn ein planed gyda’n gilydd,” meddai Lucy, cyn-ddisgybl o ysgol uwchradd Emrys ap Iwan, Abergele.

“Bydd gennyn ni wal addewidion i bobl ei llofnodi a chefnogi, a gobeithio y bydd pobl ifanc yn dod draw gan mai nhw fydd y rhai sy’n gwneud y gwahaniaeth mawr wrth lunio’r byd rydyn ni’n byw ynddo wrth symud ymlaen.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol hefyd ein bod yn gweld ymrwymiad ar unwaith i’r amgylchedd, newid yn yr hinsawdd, ailgylchu a materion hanfodol eraill ar lefel genedlaethol a byd-eang.”

Ychwanegodd Anna, cyn-ddisgybl o Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun: “Rydyn ni wedi ymrwymo i gynaliadwyedd, a’r cyfan rydyn ni’n ei ofyn ydy bod gwesteion yn dod â’u cwpan eu hunain i fwynhau lluniaeth fydd ar gael ar y noson.

“I sefydliadau sy’n dymuno mynychu, mae’n gyfle i rannu eu profiad a’u cynghorion ar gyfer ffordd o fyw gwyrdd neu redeg busnes gwyrdd, a thrafod arfer gorau wrth ostwng eu hôl troed carbon a sut i gael effaith ar ein planed am flynyddoedd i ddod.”

Bydd siaradwyr gwadd hefyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a gwaith Jackson i Animal Rescue, Cilgwri.

Mae arweinydd y rhaglen Rheolaeth Anifeiliaid, Sadie Thackaberry, yn falch o’i myfyrwyr am eu hymroddiad, eu diwydrwydd, a’u gweledigaeth wrth drefnu’r gynhadledd.

“Bydd yna lawer o negeseuon i’r dysgwyr a’r sefydliadau ar y noson, a gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol,” meddai.

“Mae’r digwyddiad yn gyfle i ddarpar fyfyrwyr a’u teuluoedd gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau eraill, prentisiaethau, a chymwysterau, a byddwn yn lansio Tystysgrif Lefel 2 newydd mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd.

“Bydd yna lawer i bobl ei fwynhau, a llawer i’w hysbysu am y sefyllfa rydyn ni ynddi, yr heriau sydd o’n blaenau a sut y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i warchod, cadw a dathlu ein planed am genedlaethau i ddod.”

Mae’r tocynnau’n £6 i unigolion neu i deulu o bedwar (plant 12+).

I fynychu’r digwyddiad, ewch i https://bit.ly/43pK5Qk

Os ydych yn fusnes neu’n sefydliad sy’n dymuno arddangos, e- bostiwch sadie.thackaberry@cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost