main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mae myfyrwyr wedi cloddio rhodd hael a fydd yn helpu i hyfforddi cenedlaethau o beirianwyr y dyfodol yng Ngogledd Cymru
STUDENTS dig a generous donation that will help train future generations of engineers in North Wales

Gwnaeth cwmni JCB Transmissions sydd wedi’i leoli yn Wrecsam gyflwyno staff a dysgwyr yng Ngholeg Cambria gyda rhannau ac offer, gan gynnwys moduron, blychau gêr, trawsyriadau, ac echelau o gloddwyr, peiriannau llwytho, a jac codi baw.

Roedd Carl Roberts, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Peirianneg Cambria ar safle Ffordd y Bers y coleg, yn ddiolchgar iawn i’r cwmni am y peiriannau, a fydd yn cael eu defnyddio i hyfforddi grwpiau ar y rhaglenni Cerbydau Modur a Pheirianneg.

“Rydyn ni mor ddiolchgar o gael rhodd fel hyn, mi fydd yr offer mor werthfawr ac yn galluogi’r dysgwyr i fod yn ymarferol a gweithio’n agos gydag ystod o beiriannau safon uchel,” meddai.

“Mi wnaeth y cwmni hyd yn oed prynu injan JCB cyfan i ni, sy’n wych ac yn rhoi cyfle i ni astudio rhywbeth gwahanol i injanau ceir neu feic modur.”

Ychwanegodd Carl: “Mae JCB wedi cefnogi Coleg Cambria ers amser hir, fel ni maen nhw eisiau hyrwyddo a helpu i gynhyrchu prentisiaid a pheirianwyr mwy medrus ar gyfer y sector.

“Mi fydd cyfraniad fel hyn yn chwarae rhan enfawr yn ein gwaith ni i gyflawni hynny.”

Mae JCB Group yn un o gynhyrchwyr mwyaf y DU ac yn cyflogi mwy nag 8,000 o bobl yn ei ffatrïoedd yn Swydd Stafford, Derby, ac ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Roedd Cyfarwyddwr Gweithrediadau JCB Transmissions Craig Weeks yn falch o allu helpu i osod y sylfeini i ddysgwyr a phrentisiaid yn Cambria.

Dywedodd: “Mae JCB Transmissions yn cefnogi ysgolion a cholegau lleol mewn sawl ffordd, ac rydyn ni wrth ein bodd i allu cynorthwyo Coleg Cambria wrth roi offer a fydd yn helpu gyda hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr a thechnegwyr cerbydau modur.

“Roedd yr eitemau mi wnaethon ni eu rhoi yn cynnwys blychau gêr, echelau a moduron trydanol a allai gael eu tynnu’n ddarnau a’u hail adeiladu i helpu myfyrwyr i gael dealltwriaeth ehangach o fecaneg a pheirianneg drydanol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth ar yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

I gael rhagor o newyddion a gwybodaeth gan JCB Group, ewch i’r wefan: www.jcb.com.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost