main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

RemasterDirector_18da6b0cf

Gwnaeth dysgwyr cwrs cyfoethogi ar safle Ffordd y Bers Coleg Cambria greu a siapio ‘cadair amser stori’ ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Victoria gyfagos.

Fel rhan o’u sesiynau cyswllt ysgolion rheolaidd gydag Adran Gwaith Saer ac Asiedydd Cambria, gwnaeth y grŵp – a oedd yn cynnwys disgyblion o Ysgol y Grango, Ysgol Maelor ac Ysgol Rhiwabon – adeiladu tair mainc a gosod blychau plannu ar gyfer gwersi awyr agored.

Dywedodd y Tiwtor Stuart Kennedy: “Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth a fyddai’n arddangos sgiliau’r dysgwyr talentog yma gan roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned hefyd.

“Fe wnaethon nhw waith anhygoel, ac roedd gweld ymateb mor gadarnhaol gan y plant a’r staff yn galonogol. Gobeithio y bydd y meinciau a’r gadair amser stori yn gwella eu dosbarthiadau awyr agored ac yn cynnig lle iddyn nhw orffwys ac ymlacio yn ystod amser egwyl.

“Roedd yn fraint cael creu’r darnau yma a dwi mor falch o’r disgyblion am eu gwaith caled – mae’r canlyniadau yn wych, a dwi eisiau diolch i Alex Smith, Swyddog Cyswllt Colegau Cyfoethogi am ei holl gymorth.”

Ymysg y grŵp cyswllt ysgolion oedd Keegan Hargreaves ac Oliver Lewis o Ysgol y Grango, Timothy Roberts a Finnley Griffiths o Ysgol Rhiwabon, a Luke Rowlands o Ysgol Maelor.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost