main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

CambriaFE1 (1)

Dechreuodd Jack Morgan, 20 oed a James Griffiths, 23 oed, ar eu taith Addysg Bellach gyda Choleg Cambria Iâl yn Wrecsam ar raglen ‘Kickstart’ Llywodraeth y DU.

Ar ôl archwilio gwahanol bynciau, daethant o hyd i gymwysterau a oedd yn gweddu i’w setiau sgiliau a’u diddordebau a bellach maent wedi cwblhau cymwysterau Lefel 3 a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn rheoli digwyddiadau a hyfforddi pêl-droed.

Dywedodd James, cyn-ddisgybl o Ysgol Joseff Sant, Gwersyllt: “Pan wnes i ymweld â’r coleg am y tro cynta’, roedd gen i ddiddordeb mewn arlwyo a chyflawni Lefel 1, cyn ennill cymhwyster mewn Mathemateg a dilyn cwrs yn y Celfyddydau Perfformio yn y pen draw.

“Fe wnes i fwynhau hynny’n fawr, ond gweithio tu ôl i’r llenni sy’n mynd â ’mryd i, felly fe wnes i ymuno â’r Diploma mewn Cynhyrchu Theatr Cefn llwyfan ac yn falch iawn ’mod i wedi gwneud.”

Yn gyd-drefnydd Wrexfest, sef dathliad tridiau poblogaidd o gerddoriaeth a diwylliant, a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn, ychwanegodd James: “Pan wnes i adael yr ysgol, doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud nesa’, felly rwy’n ddiolchgar am y cyfleoedd rwyf wedi’u cael yma yn Cambria.

“O’r diwedd roeddwn i’n gallu cyfuno fy angerdd am ddigwyddiadau a cherddoriaeth gydag addysg ac rwy’n credu bod gwneud yr hyn rydych chi’n ei garu yn hanfodol mewn unrhyw swydd.

“Mae Jack a minnau wedi gweld llawer o newidiadau yn ystod ein hamser ni yma, ond un peth cyson oedd y gefnogaeth a’r arweiniad a gawson ni, ac rwy’n ddiolchgar am hynny.”

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol St Martin’s, Croesoswallt, cafodd Jack, sy’n cefnogi Manchester United, brofiad tebyg yn y coleg.

Wedi archwilio gyrfa mewn masnach, dychwelodd i faes chwaraeon gyda’r bwriad o fod yn hyfforddwr pêl-droed ar ôl treulio amser yn hyfforddi chwaraewyr ieuenctid lleol, ffrindiau a chyd-ddysgwyr.

“Rwyf wedi mwynhau fy amser yma, er yn wibdaith sigledig braidd oherwydd y pandemig,” meddai Jack.

“Mae’n siŵr bod James a minnau wedi gweld pob ystafell ddosbarth yn ystod y pum mlynedd diwetha’, ac wedi treulio llawer o amser yn dysgu o bell, ond rydyn wedi dod trwyddi ac yn gallu edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol.”

Ychwanegodd: “Fy mwriad nawr yw mynd i’r brifysgol ac astudio ar gyfer gradd mewn Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad, gyda’r nod hirdymor o hyfforddi’n llawn amser.

“Wna’i fyth anghofio fy amser yn Cambria, rwyf wedi gwneud ffrindiau da ac yn gadael yn berson gwahanol i’r un wnaeth gyrraedd yma, ac yn barod i wneud fy marc.”

Dymunodd y Pennaeth Cynorthwyol Alex Thomas bob llwyddiant iddynt, gan ddweud: “Mae Jack a James yn esiampl wych i eraill, ac yn brawf y gallwch chi wneud unrhyw beth mewn bywyd os gweithiwch chi’n ddigon caled.

“Mae’r coleg yn gyfrwng ar gyfer symudedd cymdeithasol ac yn darparu ystod eang o gymwysterau sy’n apelio at bobl mewn sawl maes gwahanol, felly rydyn ni’n falch iawn eu bod nhw wedi dod o hyd i gyrsiau oedd yn bodloni eu huchelgais a’u diddordebau.

“Does gen i ddim amheuaeth y byddan nhw’n mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus – llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw.”

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria, sydd â safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Llysfasi a Llaneurgain.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost