Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Wrexham student designs new logo and branding for City Centre Church

Mae gwaith celf a grëwyd gan fyfyriwr yng Ngholeg Cambria yn Wrecsam wedi cael ei droi’n brandio newydd i hyrwyddo gwaith prif eglwys y ddinas.

Gofynnodd Eglwys Sant Giles i safle Iâl Coleg Cambria i gynnal cystadleuaeth gyda’i fyfyrwyr Safon Uwch mewn Celf, Crefft a Dylunio i greu dyluniad newydd i’r eglwys, sydd yn ddiweddar wedi cael cyllid ychwanegol ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned.

Cafodd dyluniad gan Szymon Szczerba sy’n ymgorffori stori Sant Giles mewn logo ei ddewis a bydd yn cael ei ddefnyddio ym mrandio’r eglwys. Mae Szymon a aeth i Ysgol Gynradd Eglwys San Giles yn ymweld â’r eglwys yn rheolaidd.

Dywedodd Ficer Sant Giles, Y Parchedig James Tout: “Rydyn ni wrth ein bodd gyda dyluniad Szymon a fydd yn cael ei ddefnyddio’n eang ar draws ein holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ein gwefan, dogfennau wedi’u printio a chynnyrch i hyrwyddo gwaith yr eglwys.

“Mae’n cyfuno bywyd a ffydd y meudwy o’r seithfed ganrif mewn un llun, a fydd yn ein hatgoffa, fel Sant Giles, y dylem ni fod yn dangos gostyngeiddrwydd, tosturi a gofal dros y rhai tlawd.”

“Daw’r penderfyniad i greu logo newydd wrth i Eglwys Sant Giles drawsnewid i fod yn Eglwys Hwb Cenhadol sy’n cynnig rhagor o wasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau i’r gymuned leol.

“Rydyn ni wedi dechrau côr newydd yn barod, sy’n agored i bawb, ac rydyn ni’n gobeithio penodi Gweithiwr Ymgysylltu Cerddoriaeth yn fuan i’n helpu ni i ddod yn ganolfan o gyfleoedd cerddorol i bawb.”

Gofynnodd Sant Giles i Goleg Cambria helpu gyda’i hail ddyluniad a chafodd 19 o ddyluniadau eu cyflwyno gan y myfyrwyr. Ychwanegodd James: “Dwi eisiau diolch i bob un ymgeisydd am eu brwdfrydedd a’u doniau. Roedd hi’n ddewis anodd gyda chymaint o ddyluniadau rhagorol i ddewis ohonyn nhw. Yn y diwedd gwnaeth dyluniad Szymon daro deuddeg gan gyfleu ethos Sant Giles.”

Dywedodd Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth Chweched Iâl yng Ngholeg Cambria: “Mae Chweched Iâl yn falch iawn o fod wedi cydweithio gydag Eglwys Sant Giles ar y prosiect cyffrous yma. Gwnaeth yr ymgyrch ddarparu briff rhagorol yn y byd go iawn i’n myfyrwyr Safon Uwch, ac rydyn ni wrth ein bodd bod gwaith Szymon wedi cael ei ddewis a’i droi’n brandio newydd. Rydyn ni i gyd mor gyffrous o gael gweld y dyluniad yn cael ei gyflwyno a’i arddangos am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Szymon: “Dwi mor ddiolchgar o’r cyfle i greu rhywbeth sydd am fod yn rhan o Eglwys Sant Giles a’r hwb gymunedol wrth i mi astudio fy nghwrs Safon Uwch mewn Celf, Crefft a Dylunio yn Chweched Iâl. Dwi mor hapus fy mod i wedi ennill; mae’n gyffrous!

“Cefais fy ysbrydoli gan stori Sant Giles ei hun; meudwy a’i unig gydymaith oedd carw coch a achubodd rhag helwyr. Daeth Sant Giles yn symbol o dosturi, ac yn nawddsant y rhai sy’n wynebu heriau iechyd, ac felly roedd yn teimlo’n briodol ymgorffori carw coch yn y dyluniad, gan ei fod yn sefyll fel symbol o dosturi diamod Sant Giles.

“Dyma oedd fy nhro cyntaf yn gweithio mewn Dylunio Graffeg ac mae ennill yn arbennig iawn gan fy mod i wedi mynd i Ysgol Gynradd Sant Giles a dwi’n ymweld â’r eglwys yn aml, felly mae’n deimlad arbennig cael cyfrannu i’w dyfodol.”

Mae Eglwys Sant Giles yn gwasanaethu anghenion poblogaeth canol dinas Wrecsam ac yn croesawu twristiaid o bob cwr o’r byd. Mae’n fan aros rheolaidd i ymwelwyr Americanaidd sy’n gyfarwydd â’r rhaglen ffrydio Welcome to Wrexham a gynhyrchwyd gan berchnogion Hollywood Clwb Pêl-droed Wrecsam. Mae mynwent Eglwys Sant Giles yn gartref i feddrod Elihu Yale, un o noddwyr Prifysgol Yale.

Bydd Eglwys Sant Giles yn cynnal digwyddiad i’r holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ddylunio fel diolch am gymryd rhan. Bydd y brandio newydd ar waith yn fuan, gan gynnwys ar wefan newydd, ond gallwch chi ddysgu rhagor am yr eglwys ar Facebook 

https://www.facebook.com/stgileschurch.wrexham

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost