main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A COLEG CAMBRIA student is on cloud nine after making his Wrexham AFC debut

Mae Harry Ashfield, sy’n 17 oed, wedi bod gyda’r Dreigiau Coch ers iddo fod yn 6 oed.

Roedd y chwaraewr canol cae canmoladwy, sy’n dod o’r ddinas, wrth ei fodd i gael ei gynnwys yng ngharfan y rheolwr Phil Parkinson ar gyfer buddugoliaeth Tlws EFL, lle wnaeth y tîm ennill 0-3 yn erbyn Crewe Alexandra yn Stadiwm Mornflake.

Roedd Harry, sy’n fyfyriwr Lefel 3 mewn Chwaraeon ar safle Iâl Cambria, wedi dotio hyd yn oed yn rhagor ei fod wedi cael chwarae ar yr 89fed munud i chwarae ei gêm hŷn gyntaf.

Mae’r cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Darland yn gobeithio cael bod yn rhan o’r tîm yn rheolaidd ar ôl ei flas o fod yn un o sêr y tîm, wrth ystyried pa mor boblogaidd ydy’r clwb yn fyd-eang o dan stiwardiaeth y perchnogion o Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney.

“Fy mreuddwyd ydi dod yn chwaraewr pêl-droed gyda CPD Wrecsam, felly roedd hyn foment anferth i mi,” meddai Harry.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl chwarae yn y gêm, roedd yn hollol annisgwyl ond heb os nag oni bai un o uchafbwyntiau fy mywyd i.

“Dwi wedi bod yn hyfforddi gyda’r tîm cyntaf ers ychydig o flynyddoedd, sydd wedi bod fel corwynt yn sgil popeth sydd wedi digwydd ar y cae ac oddi arno – mae wedi bod yn anhygoel.

“Mae fy nheulu i gyd wrth eu bodd, rydyn ni i gyd yn gefnogwyr Wrecsam, ac roedd fy nhad yno yn fy ngwylio i’n chwarae yn erbyn Crewe, doeddwn i methu credu’r peth.”

Erbyn hyn mae ar ei flwyddyn olaf yn y coleg, mae’n gobeithio mynd ymlaen ac ymddangos lawer mwy o weithiau, gan gynnwys ymddangosiad cyntaf maes o law yn y STōK Cae Ras.

“Dwi wedi mwynhau fy amser yn Cambria, mae cydbwyso fy astudiaethau gyda phêl-droed wedi bod yn heriol, ond dwi wedi llwyddo ac wedi cael llawer o gefnogaeth,” meddai Harry.

“O’r hyn ymlaen mi fyddai’n canolbwyntio’n llwyr ar bêl-droed fel gyrfa, a dwi’n fwy awyddus nag erioed ar ôl cael bod ar y cae pan wnaeth y tîm ennill, a chwarae i Wrecsam am y tro cyntaf.”

Mae Sally Jones, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Busnes yn Iâl, yn llongyfarch Harry am ei lwyddiant.

“Rydyn ni’n gwybod pa mor falch oedd Harry i gael ei gynnwys yn y garfan, felly roedd cael chwarae yn y gêm yn rhagorol,” meddai hi.

“Rydyn ni gyd mor falch o Harry, mae wedi llwyddo i gyd-bwyso ei gwrs gyda hyfforddi a chwarae ar gyfer y criw ieuenctid ac rydyn ni’n sicr y bydd yn mynd ymlaen i gael gyrfa wych mewn pêl-droed.”

I weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost