Mae Coleg Cambria wrth eu bodd yn cyhoeddi cydweithrediad rhwng ei dîm Dysgu Proffesiynol ac InnerDrive, darparwr blaenllaw o adnoddau addysgol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Heddiw yw lansiad swyddogol “Cipolwg o’r Coleg,” cyfres fideo arloesol wedi’i chynllunio i roi cipolwg amhrisiadwy i addysgwyr ar arferion addysgu a dysgu effeithiol o fewn AB. Mae’r lansiad cychwynnol yn cynnwys 14 fideo sy’n rhoi strategaethau ymarferol i addysgwyr coleg i wella eu haddysgu.
Mae cyfres Cipolwg o’r Coleg yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau addysgeg hanfodol, gan gynnwys galwadau diwahoddiad, sgaffaldwaith, ac ymarfer adfer. Mae pob fideo yn adnodd cynhwysfawr, gan gyfuno lluniau o’r ystafell ddosbarth a gweithdai go iawn o Goleg Cambria, gyda dadansoddiad arbenigol gan addysgwyr.
Mae’r arbenigwr addysgol enwog Doug Lemov, awdur y llyfr gwerthwr gorau Teach Like a Champion, a Dr. Claire Badger, Pennaeth Datblygiad Proffesiynol Athrawon, o InnerDrive yn darparu sylwebaeth sy’n dadansoddi’r technegau addysgu a ddangosir, gan wneud cysyniadau cymhleth yn hygyrch ac yn ymarferol i addysgwyr.
“Mae hwn yn gydweithrediad arloesol sy’n rhoi ymchwil ar waith,” meddai Lesley Warr, Pennaeth Dysgu Proffesiynol yng Ngholeg Cambria. “Mae gweithio gydag InnerDrive wedi ein galluogi i greu adnodd sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r heriau a’r cyfleoedd unigryw a geir wrth addysgu yn y sector addysg bellach. Credwn y bydd y gyfres hon yn dod yn offeryn DPP amhrisiadwy sy’n helpu i gefnogi datblygiad proffesiynol”.
Ychwanegodd Dr. Bradley Busch o Inner Drive, “Rydym yn hynod falch o fod yn bartneru â Choleg Cambria ar y prosiect hwn. Mae cyfres Cipolwg o’r Coleg yn pontio’r bwlch rhwng damcaniaeth addysgol a chymhwyso yn yr ystafell ddosbarth. Mae gweld y technegau ar waith yng Ngholeg Cambria, ac yna cael y dadansoddiad arbenigol, yn darparu profiad dysgu pwerus i wylwyr.” Anfonwch e-bost rŵan i gael blas am ddim a dechreuwch drawsnewid datblygiad eich staff unpacked@innerdrive.co.uk