main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

JGWGreenfield2

Treuliodd grŵp o hyd at 14 o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+ o Goleg Cambria chwe wythnos yn Nyffryn Maes Glas, parc diwylliannol poblogaidd yn Sir y Fflint sy’n cynnwys 70 erw o goetir, henebion a dros 2,000 o flynyddoedd o hanes ar y safle.

Cafodd y profiad ei drefnu mewn partneriaeth â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC) – sy’n canmol y gwirfoddolwyr gan gyflwyno tystysgrifau iddyn nhw am eu cyrhaeddiad – gwnaeth y grŵp o bobl ifanc 16-18 oed baentio ffensys a meinciau, bigo sbwriel a gwneud amrywiaeth o dasgau garddio, glanhau a thirlunio.

Dywedodd Daniel Walker-Gordon sy’n Fentor Cyflogadwyedd y bydd y sgiliau trosglwyddadwy hyn yn eu helpu nhw yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Mae’r grŵp wedi dangos llawer o falchder dinesig ac wedi dysgu am waith tîm, rheoli gwastraff, cadw amser a phriodoleddau eraill a fydd yn bwysig yn ystod eu bywydau,” ychwanegodd.

“Roedden nhw’n glod i Twf Swyddi Cymru+ a’r coleg a hoffem ni ddiolch i FLVC am roi’r cyfle iddyn nhw gael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol wrth ennill sgiliau, gwybodaeth newydd a hyder.

“Roedd yn brofiad gwych i bob un ohonom ni ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio yn rhagor ar brosiectau eraill.”

Ychwanegodd Kris Kordiak, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn yng Nghyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint: “Bu’r gwirfoddolwyr i gyd yn gweithio’n galed iawn ac yn help mawr i dîm y Ceidwaid ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas.

“Mae’r prosiect wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o fanteision gwirfoddoli a’r gwahaniaeth amhrisiadwy y gall hyn ei wneud i gymunedau.

“Hoffwn i ddiolch eto i’r dysgwyr am gymryd rhan yn y prosiect a dymuno’r gorau i bob un ohonyn nhw ar gyfer y dyfodol.”

Os ydych chi rhwng 16-18 oed, yn byw yng Nghymru ac angen arweiniad a chymorth gyda chyflogaeth, prentisiaethau neu ddysgu ychwanegol, gallwch chi gysylltu â rhaglen Twf Swyddi Cymru+, a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Byddwch chi’n cael cymwysterau ac yn cael profiad gwaith wrth ennill hyd at £55 yr wythnos ac yn cael cyrchu lleoliadau gwaith, cyngor ac arweiniad gan fentoriaid yng Ngholeg Cambria.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 01978 267472 neu anfonwch e-bost at JGWPlus@cambria.ac.uk.

Mae’r holl newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria ar gael yma: www.cambria.ac.uk.  

Ewch i  www.flvc.org.uk am ragor o wybodaeth am Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, sydd ar gael i hysbysebu pob agwedd gweithgaredd gwirfoddol a chymunedol.

Mae eu Prosiect Gwirfoddoli â Chymorth nesaf ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed yn dechrau ddydd Mercher 3 Awst. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at volunteers@flvc.org.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost