main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

apprentice aerospace engineer asking tutor a question

Mae Coleg Cambria yn cynnal digwyddiad recriwtio yn ei Sefydliad Technoleg yng Nglannau Dyfrdwy rhwng 5pm a 7pm ddydd Mercher 13 Gorffennaf.

Yn dilyn llwyddiant yr Arddangosfa Sgiliau Gweithgynhyrchu Digidol yr wythnos diwethaf – lle croesawyd dros 200 o bobl a busnesau i Medru – Y Ffatri Sgiliau – mae’r sefydliad yn anelu at gyflogi gweithwyr profiadol o ddiwydiant i ateb y galw am ddarlithwyr, technegwyr a hyfforddwyr ar ei safleoedd ar draws gogledd ddwyrain Cymru.

“Mae poblogrwydd ein cyrsiau a’r tirlun cyflogaeth cyffredinol yn golygu bod angen mwy o athrawon arnom ni’n gyffredinol yn y meysydd awyrofodol, trydanol, modurol, amaethyddol, gweithgynhyrchu a mwy,” meddai Nick Tyson, Is-Bennaeth Technoleg, Peirianneg ac Adeiladu.

“Mae gennym ni gysylltiadau cryf â’r sector preifat ac rydym ni’n rhoi gwerth enfawr ar gael ein myfyrwyr yn ‘barod am waith’ ar ôl cwblhau eu hamser gyda ni, felly mae dod o hyd i ymgeiswyr sydd â phrofiad addas yn hanfodol.

“I unrhyw un sy’n chwilio am newid gyrfa, mae hwn yn opsiwn hyfyw a chynaliadwy gan ei fod yn eu galluogi i barhau i fireinio eu sgiliau wrth gefnogi cenedlaethau’r dyfodol o beirianwyr, drwy brentisiaethau a’r ystod eang o gyrsiau rydym ni’n eu cynnig.

“A pheidiwch â phoeni os nad oes gennych chi gymhwyster addysgu’n barod gan y gallwn eich cefnogi i gael un yma yn Cambria.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Cambria, Diane Jolly: “Mae’r pandemig wedi gwneud i lawer o bobl edrych yn fanwl ar eu swyddi ac ail-werthuso’r cyfeiriad maen nhw’n teithio ynddo.

“Mae Coleg Cambria yn un o golegau mwyaf blaenllaw’r wlad, sydd wrth wraidd diwydiant yn yr ardal hon, felly mae gallu chwarae rhan mewn addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc yn fenter ddeniadol.

“P’un ai ydyn nhw’n weithwyr sy’n nesáu at oedran ymddeol neu’n rhai sydd â llai o flynyddoedd o brofiad ond sy’n chwilio am gyfle newydd, efallai mai dyma’r newid rydych chi’n chwilio amdano.”

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, ewch i https://teachengineersofthefuture.eventbrite.co.uk

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at diane.jolly@cambria.ac.uk or nick.tyson@cambria.ac.uk

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf o Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost