main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Kate3

Mae Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith yng Ngholeg Cambria, wedi cwblhau Llwybr Arfordir Cymru, gan godi hyd at £1500 ar gyfer Cancer Research UK.

Gwnaeth Kate, sydd o Gaer, fynd i’r afael â’r her er mwyn nodi ei phen blwydd yn 50 oed ac i gefnogi’r sefydliad sydd wedi ymrwymo i arbed bywydau trwy ymchwil, dylanwad, a gwybodaeth.

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi fy nghefnogi,” meddai.

“Gwnes i gerdded bron i 300 taith a dinistrio sawl pâr o esgidiau ymarfer corff, ond dwi wedi llwyddo – mae’n teimlo’n rhyfeddol fy mod i wedi cwblhau 870 milltir!”

Ychwanegodd Kate: “Roedd yn daith arbennig, ac roedd hi’n emosiynol iawn gan fod llawer o bobl yn fy mywyd wedi cael eu heffeithio gan gancr dros y blynyddoedd.

“Yn anffodus gwnaeth fy ewythr farw o’r cyflwr ac mae gen i aelodau eraill o’r teulu a ffrindiau sydd wedi brwydro’r clefyd creulon yma.

“Roedd fy ewythr bob amser yn benderfynol o helpu eraill ac mae hynny wedi aros gyda fi. Cyn iddo farw, roedd yn cynllunio digwyddiad codi arian ar gyfer Cancer Research UK ar ei ben blwydd, sy’n dangos yr oedd o’n ddyn mor arbennig.

“Dwi mor falch fy mod i wedi mynd ati i wneud hyn ac eto diolch yn fawr i bawb sydd wedi bod mor hael ac i’r rhai a wnaeth gadw cwmpeini i mi ar hyd y ffordd.”

Er mwyn cefnogi ymgyrch codi arian Kate ewch i: www.justgiving.com/fundraising/KateMuddiman50.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost