main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

DCIM100MEDIADJI_0005.JPG

Bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf yn cael ei adeiladu ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam.

Bydd sefydliad Wynne Construction sydd wedi’i leoli ym Modelwyddan – sydd wedi datblygu safle cyfagos Hafod a oedd werth £21 miliwn – yn mynd i’r afael â’r prosiect, sy’n cynnwys sba a bar sudd masnachol o safon diwydiant wedi’i ddodrefnu’n llawn, wardiau meddygol efelychiedig ac amgylcheddau rhithrealiti.

Bydd y seiliau yn cael eu gosod dros yr wythnosau nesaf a disgwylir i’r adeilad gael ei gwblhau yr haf nesaf.

Mae Vicky Edwards sef Is-bennaeth Astudiaethau Technegol yn edrych ymlaen at weld eu gweledigaeth yn dod yn fyw.

“Mae iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth yn draddodiadol, felly bydd hyn yn chwyldroadol i addysg yn y rhanbarth yma,” meddai hi.

“Bydd y sgiliau ymarferol a’r profiad bydd ein myfyrwyr yn eu hennill, mewn partneriaeth ag enwau blaenllaw yn y sector, yn sicrhau bod yr adeilad yn hwb bywiog, gweithredol, yn academaidd ac fel amgylchedd gwaith realistig.

“Mae’r wardiau efelychu meddygol yn enghraifft o hynny; byddan nhw fel ward ysbyty, gydag amgylchedd rhithrealiti fel bydd y dysgwr yn ymdrin â sefyllfaoedd a heriau go iawn, mewn amser go iawn, er mwyn gweld sut y maen nhw’n ymdopi ac yn ffynnu – mae hynny’n rhywbeth dydych chi ddim yn gallu ei ddysgu wrth fod yng nghefn darlithfa yn darllen gwerslyfr.”

Ychwanegodd Vicky: “Bydd hwb therapïau cyflenwol ac amgen yno hefyd, gyda thriniaethau a fydd yn cynnwys tylino a therapïau amgen, sy’n cael eu rhoi fel presgripsiwn i leddfu anhwylderau meddyliol a chorfforol fel gorbryder ac iselder yn fwy aml erbyn hyn.

“Bydd yr agwedd fasnachol o hynny yn amhrisiadwy i’n myfyrwyr ac i’r gymuned wrth iddyn nhw allu trefnu triniaethau ar bris cystadleuol. Mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill, lle y bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau a phrofiad perthnasol i ddysgwyr eu defnyddio yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn ar gyfer y datblygiad yma, bydd yn chwyldroadol ym myd iechyd a gofal cymdeithasol, addysg a phrentisiaethau yng ngogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt – rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr adeilad yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Graham Dickson, rheolwr contractau Wynne Construction: “Fel cwmni sydd wedi tyfu yng Ngogledd Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno adeiladau sy’n cael effaith gwirioneddol ar yr holl ranbarth, ac rydyn ni wrth ein bodd i gael dechrau gwaith ar ail gam y prosiect blaenllaw yma.

“Mae gallu parhau’r berthynas gadarn sydd gennym ni gyda Choleg Cambria wedi bod yn wych ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y datblygiad yn dod yn fyw dros y flwyddyn nesaf, yn ogystal â darparu cyfleoedd profiad gwaith a phrentisiaethau, a chyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi leol fod yn rhan o’r prosiect adeiladu yma.

“Mae ein tîm yn brysur iawn wrth eu gwaith yn sicrhau bod yr adeilad yn cael ei adeiladu heb unrhyw broblemau. Bydd yr adeilad yn darparu myfyrwyr gydag amgylchedd dysgu deinameg a rhyngweithiol ac rydyn ni’n gobeithio bydd yn eu hysbrydoli a’u cymell nhw i gyflawni eu potensial llawn.”

Er mwyn gweld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol neu ewch i’r wefan yma: www.cambria.ac.uk.  

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost