Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Jonathon Davies for new story AN INSPIRATIONAL figure in Welsh tennis and youth politics secured a raft of accolades following smash-hit success on and off the court.

Cafodd cyn-fyfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Cambria, Jonathon Dawes, ei gydnabod gan Goleg y Brenin Llundain (KCL) – a chymuned chwaraeon ehangach Prydain – am ei gyfraniad arloesol at ddatblygu tennis a chynhwysiant ar lawr gwlad.

Derbyniodd y dyn 22 oed, o’r Rhyl – eisoes yr aelod ieuengaf o Gyngor y Gymdeithas Tennis Lawnt -Wobr Cyn-fyfyrwyr Nodedig gan KCL, gan ddilyn ôl troed enwogion fel y Prif Weinidog Syr Keir Starmer a’r Olympiad Dina Asher-Smith.

Ar ôl cwblhau ei Safon Uwch yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy Cambria yn 2021 – lle cyflawnodd A* mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, Economeg, Addysg Gorfforol a Bagloriaeth Cymru, a gwasanaethu fel Llywydd Myfyrwyr – symudodd Jonathon i Lundain i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg.

Ers hynny mae wedi dychwelyd i’r coleg ar sawl achlysur i rannu ei daith ac ysbrydoli dysgwyr.

“Coleg Cambria wnaeth fy annog i wneud cais i’r brifysgol pan oeddwn i’n ystyried opsiynau eraill, a dwi mor falch eu bod nhw wedi gwneud hynny,” meddai.

“Fe wnaethon nhw feithrin fy angerdd dros dennis a rhoi’r hyder i mi anelu’n uchel.”

Yn ystod ei amser yn KCL, treuliodd Jonathon ddwy flynedd ar bwyllgor tennis y coleg ac fel Llywydd yn ei flwyddyn olaf, gan nodi gweledigaeth “bwriadol gynhwysol” i sicrhau y gallai pob myfyriwr fwynhau bywyd prifysgol trwy dennis, cynyddu aelodaeth o 65% a sicrhau partneriaeth â’r brand byd-eang, Wilson.

Hyd yn oed ar ôl graddio gyda Dosbarth Cyntaf gydag Anrhydedd, parhaodd i wirfoddoli gyda KCL Tennis, gan arwain rhaglen oedd yn cynnwys ei Gŵyl Tenis LHDTC+ gyntaf erioed.

At ei gilydd, mae ei ymdrechion ôl graddio wedi ymgysylltu â 350+ o fyfyrwyr ac wedi denu dros £2,500 o gyllid newydd, tra bod digwyddiadau elusennol wedi codi bron i £1,000 ar gyfer achosion da.

Ar hyn o bryd mae Jonathon yn cwblhau MA mewn Dulliau Ymchwil ar gyfer Gwyddor Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Durham a bydd yn dechrau PhD ym mis Medi yn yr Adran Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff, gan ymchwilio i wleidyddiaeth a chymunedau dan anfantais mewn tennis.

“Mae Coleg y Brenin Llundain yn brifysgol rhynglwadol flaenllaw, felly mae cael eich cydnabod mor ifanc yn anrhydedd enfawr,” meddai. “Ond dim ond y dechrau ydi hyn – dwi wedi ymrwymo i wneud tennis yn fwy hygyrch i bawb, yng Nghymru, y DU a thu hwnt.”

Dywedodd Pennaeth Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy, Miriam Riddell: “Rydy ni’n falch dros ben o Jonathon – nid yn unig am ei lwyddiant academaidd a chwaraeon, ond am yr ymroddiad a’r cynhesrwydd y mae’n ei ddangos at eraill. Mae’n fodel rôl gwych, ac edrychwn ymlaen at ei groesawu’n ôl yn ddiweddarach eleni.”

Ychwanegodd Paul Brooks, Rheolwr Cyfathrebu Cynfyfyrwyr Coleg y Brenin Llundain: “Mae Gwobrau Cynfyfyrwyr Nodedig y Coleg yn dathlu cyflawniadau pobl eithriadol sy’n gwneud y byd yn lle gwell.

“Ni ddylai’r ffaith fod Jonathon wedi ennill ein gwobr Egin Arweinydd fod yn synod i unrhyw un sy’n ymwybodol o’i restr drawiadol o gyflawniadau. Mae ei waith yn hyrwyddo cynhwysiant ac annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan mewn tennis, a chwaraeon eraill, yn ysbrydoledig ac yn drawiadol.

“Mae pawb yma wrth eu boddau’n dilyn ei lwyddiant a’i gyflawniadau. Mae’r gydnabyddiaeth hon gan King’s yn haeddiannol iawn. Maddeuwch y gair mwys, ond mae ef a’i gyflawniadau mewn tennis yn wirioneddol ‘ace’.”

Am y wybodaeth a’r newyddion diweddaraf gan Goleg Cambria ewch i: www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost