main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

A transformative social mobility charity celebrating its 10th anniversary will support and educate even more young people across north east Wales in 2024

Mae WeMindTheGap wedi cael cyllid ychwanegol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i ymestyn ei ddarpariaeth WeDiscover, WeGrow a WeBelong o fis Ionawr ymlaen.

Mae’r rhaglenni wedi’u cefnogi gan gyngor sir Wrecsam a sir y Fflint, a Choleg Cambria.

Mae WeDiscover yn rhaglen rithwir, ar gyfer cyfranogwyr 16 i 25 oed, ac yn eu darparu nhw gyda’r cyfle i ddarganfod rhagor am eu hunain a’r byd y tu hwnt i’w stepen ddrws trwy gyfuniad o weithgareddau grŵp, mentora un i un pwrpasol a’r cyfle i gyfarfod â siaradwyr gwadd ysbrydoledig.

Rhaglen wyneb yn wyneb 12 mis ydy WeGrow ar gyfer pobl 18-25 oed sy’n cynnig chwe mis o brofiad gwaith ochr yn ochr â hyfforddiant bywyd a’r cyfle i ennill cymwysterau gan gynnwys Mathemateg, Llythrennedd Digidol, Cyfathrebu a Saesneg.

Mae WeBelong ar gyfer graddedigion WeDiscover ac WeGrow, lle mae unigolion yn gallu troi at y tîm WeBelong ar gyfer cymaint o gymorth neu gyngor ag y maen nhw’n dymuno – ar unrhyw bwynt yn eu bywyd neu yrfa. Mae hyn yn cynnwys cyngor a chymorth perthnasau, gyrfaoedd, addysg, tai, magu plant a phryderon iechyd meddwl.

Mae sesiynau cyflogadwyedd ac adeiladu hyder dan arweiniad WeMindTheGap i gyfranogwyr – neu ‘Gappies’ – yn cael eu cynnal ym Mhafiliwn Jade Jones yn Fflint ac ar safle Iâl y coleg yn Wrecsam.

Mae gan Brif Swyddog Gweithredol WeMindTheGap Ali Wheeler weledigaeth i helpu’r rhai sydd wedi profi plentyndod andwyol neu o gefndiroedd heriol i fyw eu ‘bywyd annibynnol gorau’, dywedodd: “Mae’r rhaglenni yn gyfleoedd hanfodol i bobl ifanc yn Wrecsam a Sir y Fflint i ennill a datblygu sgiliau newydd, gwella eu hyder, a’u hannog nhw i feddwl am yr hyn sydd ei angen arnyn nhw i gael dyfodol gwell.

“Mae lleoliadau gwaith a phrosiectau fel hyn wedi newid, ac rydyn ni’n clywed gan gyflogwyr bod rhai pobl ifanc yn bellach oddi wrth fod yn barod ar gyfer gwaith nag erioed, am ystod eang o resymau gan gynnwys iechyd meddwl gwael a gorbryder cymdeithasol, a chyfrifoldebau gofalu gartref.

“Mae’r rhain yn broblemau byd-eang, dim yn Wrecsam a Sir y Fflint yn unig, dyma pam rydyn ni’n gwneud pethau’n wahanol ac yn teilwra’r sesiynau rydyn ni’n eu cyflwyno wyneb yn wyneb ac ar-lein i fodloni’r heriau yma, wrth gadw at ein Model Damcaniaeth Newid sydd wedi llwyddo’n barhaus dros y 10 mlynedd diwethaf.

Ychwanegodd hi “Dydych chi ddim yn unig yn dod yn gyflogadwy, mae’n daith, ac rydyn ni ar y daith gyda’n gilydd.

“Mae’r bobl ifanc sydd gennym ni yn fendigedig, a phan maen nhw’n cael y cyfle i ehangu eu gorwelion maen nhw mor ddawnus; rydyn ni’n rhoi synnwyr o berthyn, strwythur, diben a chyfrifoldeb iddyn nhw.

“Rydyn ni mor ddiolchgar i Goleg Cambria am eu rôl yn ein helpu ni i gyflawni hynny, mae’r tiwtoriaid yn gadarnhaol ac yn ysbrydoledig, ac rydyn ni wrth ein bodd bod y sesiynau am gael eu cynnal yn Iâl yn ogystal â Fflint, fellt rydyn ni’n gallu ymgysylltu gyda hyd yn oed rhagor o bobl ifanc.”

Mae Gappies yn cael eu cyfeirio at yr elusen trwy sefydliadau gan gynnwys JobCentre Plus, awdurdodau lleol, Gyrfa Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae Cyfarwyddwr Cwricwlwm Sgiliau Dysgu yn y Gwaith ac Addysg Oedolion Claire Howells wedi cysylltu mentoriaid a thiwtoriaid pwrpasol gydag unigolion a grwpiau i fodloni eu hanghenion, yn ogystal â chreu cynlluniau dysgu wedi’u teilwra.

Yn eu plith nhw mae Darlithydd Sgiliau Sylfaen Shell Hotchkiss, sy’n arwain gwersi grŵp Mathemateg a Saesneg yn Fflint bob dydd Iau.

Dywedodd hi: “Mae hyn wedi bod yn brofiad bendigedig, mae’r Gappies yn wych ac wedi gwneud cymaint o gynnydd yn barod, mae eu hyder nhw wedi codi, ac rydych chi’n gallu gweld yr effaith mae bod yma yn ei chael arnyn nhw.

“Rydyn ni’n cyfuno’r ochr academaidd gyda gemau hwyl a strategol, sy’n torri pethau i fyny mewn ffordd braf ac ymarferol i ddenu sylw a dysgu sgiliau newydd. Maen nhw wedi gweithio mor galed ac eisiau cyflawni rhywbeth arbennig a allai newid eu bywydau nhw.”

Bydd ei chydweithiwr Cat Wood, yn arwain y grŵp yn Wrecsam, mae hi wedi cefnogi’r tîm yn Fflint dros yr wythnosau diwethaf.

Ychwanegodd hi: “Mae gweithio gyda WeMindTheGap wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Mae’r amgylchedd anffurfiol ac ymlaciol yn galluogi dysgwyr i weithio ar eu sgiliau Mathemateg a Saesneg ar eu cyflymder eu hun yn hytrach na mewn amgylchedd ystafell ddosbarth confensiynol.

“Roedd hi’n hyfryd gweld pa mor gefnogol oedd y dysgwyr o’i gilydd a hynny tuag at y gwaith a thu hwnt i hynny.”

Mae un o’r Gappies, Willow Hymphreys o Fagillt, yn adleisio hynny: “Dwi wedi gweld budd go iawn gan WeMindTheGap a dwi wedi gallu datblygu fy sgiliau.

“Yn y dyfodol mi faswn i wrth fy modd yn gwneud cerddoriaeth, ac mae hyn yn llwyfan i mi allu symud ymlaen a gwneud hynny, i adeiladu fy hyder, gweld pa gyfleoedd sydd allan yno ac i wneud hynny mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar gyda strwythur a threfn, sydd mor bwysig i gymaint ohonom ni.”

I gael rhagor o wybodaeth am WeMindTheGap, ewch i’r wefan: wemindthegap.org.uk

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost