main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

CNCTurningSKILLSWALES

Mae tri phrentis wedi cael eu dewis ar gyfer sgwad WorldSkills UK cyn digwyddiad rhyngwladol a fydd yn cael ei gynnal yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Y tri phrentis yw:

Bella Bailey – Ymarferydd Therapi Harddwch – Afon Spa, Canolfan Hamdden Aura Glannau Dyfrdwy

Rosie Boddy – Peirianneg Awyrennau – Airbus UK, Brychdyn

Timoteusz Rozanski – Peirianneg Awyrennau – Airbus UK, Brychdyn

Enillodd y tri fedalau yng nghystadleuaeth WorldSkills yn yr hydref, lle gwnaeth Cambria orffen ymhlith y pedwar sefydliad AB gorau yn y DU.

Mae Bella, Rosie a Timoteusz ymysg 94 person ar draws 27 maes gwahanol a fydd yn mynd i’r afael â rhaglen hyfforddiant dwys 18 mis i geisio profi bod ganddynt yr hyn sydd ei angen i gystadlu yn erbyn cynrychiolwyr ar draws y byd yn Lyon ym mis Medi 2024.

Dywedodd Rona Griffiths sef Rheolwr Profiad Dysgwr a Menter: “Rydyn ni’n falch iawn o’r tri ohonyn nhw a, weithredu ar lefel mor uchel, maen nhw’n glod i Goleg Cambria a’r sefydliadau maen nhw’n gweithio iddynt.

“Ynghyd â’n partneriaid mae gennym ni enw da cadarn am gynhyrchu prentisiaid dawnus a medrus ac nid ydi eleni yn eithriad.

“Rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw ac rydyn ni’n gwybod y byddan nhw’n gweithio’n galed i geisio bod yn rhan o’r sgwad derfynol ar gyfer Lyon.”

Bydd y grŵp yn gweithio gydag arbenigwyr yn y diwydiant, pencampwyr blaenorol, a hyfforddwyr perfformiad uchel i fireinio eu galluoedd.

Mae cystadlaethau WorldSkills wedi’u dylunio i hyrwyddo arfer gorau, datblygu sgiliau, adeiladu hyder, a helpu i gynyddu cynnydd economaidd. Ar ôl bod yn 10fed yn y digwyddiad y llynedd, mae’r sgwad yn ceisio gwella hyd yn oed yn rhagor er mwyn gwthio safle’r DU ymhellach.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol WorldSkills UK Ben Blackledge: “Mae aelodau o’r sgwad wedi gwneud yn dda iawn i gyrraedd y cam yma ac maen nhw’n enghreifftiau rhagorol o oreuon ein system addysg bellach, ond mae’r gwaith caled yn dechrau rŵan wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cystadleuaeth ryngwladol.

“Mae gan gystadleuwyr gyfle i ddangos eu sgiliau ar y llwyfan ryngwladol a gallwn ni drosglwyddo’r mewnwelediad a’r arfer gorau o wledydd eraill i godi safonau gartref.

“Trwy ein Canolfan Rhagoriaeth, rydyn ni’n rhannu’r wybodaeth ryngwladol gyda miloedd o bobl ifanc ar draws y DU.”

Daw’r newyddion ar ôl i 124 o ddysgwyr Cambria gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru mewn ystod eang o feysydd. Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn dathliad ym mis Mawrth.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost