main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

EmiliaCambria Resized

Roedd Emilia Zietara yn llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Genedlaethol Menter Gymdeithasol BTEC sydd wedi’i redeg gan grŵp Pearson a The Peter Jones Foundation.

Mae Emilia yn ddisgybl yn Ysgol Rhosnesni, Wrecsam, a chafodd hi ei chofrestru ar gyfer y gystadleuaeth oherwydd ei phrosiect ar gyfer Tystysgrif Lefel 2 BTEC mewn Busnes yng Ngholeg Cambria Iâl.  Ei syniad oedd – ‘Bydi’ wedi’i wneud o ddefnydd meddal, wedi’i ailgylchu, i’w ddefnyddio er mwyn cael gwared ar straen a system gymorth. Roedd y beirniaid yn canmol y syniad, ac “wrth eu bodd gyda’r broses feddwl a’r ymchwil a wnaeth Emilia er mwyn creu’r Bydi, yn ogystal â’r creadigrwydd a’r cyflwyniad rhyngweithiol a wnaeth Emilia fel rhan o’r gystadleuaeth”. 

Ychwanegodd Bill Muirhead sef Prif Weithredwr Peter Jones Foundation: “Gwnaeth Emilia ennill mewn categori Cyfnod Allweddol 4 anodd iawn gan guro cannoedd o geisiadau, felly llongyfarchiadau enfawr iddi.”

Mae Emilia wrth ei bodd, mae ei chysyniad yn cael ei dreialu mewn ysgolion cynradd lleol – yn ystod y pandemig, wrth i fyfyrwyr ar hyd y DU gael eu gorfodi i ddysgu o gartref yn y cyfnod clo, i ffwrdd o’u ffrindiau ac wedi’u hynysu.

Ar ôl gwneud ymchwil cafodd hi ymateb cadarnhaol, gyda llawer yn dweud bod y Bydi wedi cael gwared ar densiwn a gorbryder, gan wneud iddyn nhw deimlo cysur ac yn llai cynhyrfus.

Dywedodd Emilia: “Doeddwn i ddim yn meddwl buaswn i’n ennill, ond wedyn mi wnes i, doeddwn i methu coelio’r peth.

“I ddechrau bwriad y syniad oedd bod yn dedi cofio ar gyfer pobl sydd wedi colli rhywun neu sydd eisiau rhywbeth i’w afael arno i gadw atgof yn fyw, neu ar gyfer unrhyw reswm mewn gwirionedd.

“Ond, yn fuan ar ôl gwneud rhagor o ymchwil i’r cynnydd mewn problemau iechyd meddwl yn y DU a’r gwenau a ddaeth ar unwaith wrth i bobl afael yn y Bydi cyntaf gwnes i ei greu. Gwnaeth hynny i mi feddwl am sut allai hyn fod yn bwysig i gynorthwyo’r rhai sydd wirioneddol ei angen.

“Gwnaeth rhagor o ymchwil fy arwain i’r ganolfan gynhwysiant yng Ngholeg Cambria, lle y gwnes i eu gadael nhw i fyfyrwyr edrych arnyn nhw, eu gafael a rhoi eu hadborth. Doeddwn i ddim yn disgwyl cael ymateb mor gadarnhaol am gwningen wedi’i phwytho â llaw wedi’i gwneud o ddefnydd hen grys t!”

Ychwanegodd hi: “Dyna lle y cafodd y Bydi ei greu, gyda chanolbwynt o helpu pobl sydd â gorbryder ac yn ystod cyfnodau anodd.

“Ers ennill, mae wedi cael ei dreialu mewn ysgolion cynradd lleol i ddysgwyr sy’n wynebu cyfnodau heriol, p’un ai ei fod yn brofedigaeth neu rywun sydd eisiau cysur ar ôl diwrnod gwael.

“Mae hyn wedi bod yn brofiad hollol anhygoel a bydda i byth yn ei anghofio, dwi wrth fy modd a dwi dal methu coelio’r peth.”

Er mwyn gweld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost