main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Mynychodd Dan Evans, o Dreffynnon, Goleg Cambria Glannau Dyfrdwy am y tro cyntaf yn 2007 i astudio ar gyfer Lefel 2 BTEC mewn Technoleg Gwybodaeth ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’w astudiaethau am resymau personol.

Am y deng mlynedd nesaf bu’n gweithio yn y sectorau manwerthu a gweithgynhyrchu, cyn i’r dyn 32 oed – gyda chefnogaeth ei gymar Katonah – benderfynu mynd yn ôl i Cambria a chwblhau’r Lefel 3 BTEC mewn Technoleg Gwybodaeth yn llwyddiannus.

Rhoddodd hynny gyfle iddo ddilyn gyrfa mewn rhaglennu a dylunio cyfrifiadurol gyda Russell IPM yn y Fflint.

Cafodd ei swydd ei gwneud yn un barhaol ym mis Ionawr – wythnosau’n unig ar ôl genedigaeth ei blentyn cyntaf, Evelyn – ac mae Dan bellach yn mwynhau dechrau gwych i 2022 fel tad newydd yn ei swydd newydd.

“Es i’r coleg o’r ysgol uwchradd, ond wnaeth o ddim gweithio allan, felly cefais fy hun mewn sawl swydd manwerthu dros y degawd nesaf,” meddai Dan, cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Treffynnon.

“Yng nghefn fy meddwl roeddwn i wastad wedi bod eisiau gweithio ym maes Technoleg Gwybodaeth, yn enwedig datblygu meddalwedd a gemau, felly yn haf 2019, gyda chefnogaeth Katonah, penderfynais fynd yn ôl i’r coleg.

“Roedd yn rhyfedd dychwelyd a gweld yr un darlithwyr oedd wedi fy nysgu i’r holl flynyddoedd hynny’n ôl, ond roedd popeth arall yn wahanol. Coleg Glannau Dyfrdwy oedd ei enw bryd hynny ac mae’r cyfleusterau newydd sydd ganddyn nhw erbyn hyn yn anhygoel.

“Yn anffodus, oherwydd y pandemig, chefais i ddim gwerth o gyfle i’w defnyddio, ond fel o’r blaen roedd y gefnogaeth a gefais i gan fy narlithwyr – Paul Newman, Claire Payne a Nick Dellaway yn enwedig – yn wych. Roedd yr holl broses yn un bleserus diolch iddyn nhw, gan fy helpu i gyrraedd lle’r oedd angen i mi fod.”

Ychwanegodd: “Mae gweithio’n llawn amser mewn cwmni fel Russell IPM fel breuddwyd sydd wedi dod yn wir. Datblygwr meddalwedd yw fy swydd i, ond rwyf wedi cael fy annog i wthio fy hun a rhoi cynnig ar bethau newydd, gloywi fy sgiliau CAD (Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur) ac rwyf hyd yn oed yn gweithio ar brototeipiau cynnyrch creadigol ac arloesol.

“Mae’n anhygoel, mae pob diwrnod yn wahanol ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw, ac wrth gwrs i Goleg Cambria am roi’r hyder i mi fynd amdani. Fe wnaethon nhw ddangos i mi, os ydych chi am newid cwrs eich bywyd, nad ydi hi byth yn rhy hwyr.”

Cafodd Dan ei longyfarch gan y darlithydd Paul Newman, a ddywedodd ei fod yn enghraifft o sut na ddylech byth roi’r gorau i’ch gweledigaeth.

“Roedd yn wych cael Dan yn ôl gyda ni ar ôl dros 10 mlynedd; dychwelodd gyda diwydrwydd ac ymroddiad oedd yn golygu ei fod bob amser yn mynd i ennill y cymhwyster a mynd ymlaen i weithio yn ei faes dewisol. Rydyn ni’n dymuno bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.”

Gyda phencadlys yng Nglannau Dyfrdwy a safleoedd pellach yn Ewrop, Affrica, Asia a’r Dwyrain Canol, Russell IPM yw un o brif weithgynhyrchwyr cynhyrchion monitro a rheoli pryfed sy’n seiliedig ar fferomon.

Dywedodd Dr Dhurgham Al-karawi, Rheolwr Rhaglennu a Thechnegol Russell IPM: “Ers i Dan ymuno â’r cwmni mae wedi ffitio’n berffaith o fewn y tîm.

“Cafodd ei gyflogi fel datblygwr meddalwedd, gan ddangosodd yn gyflym fod ganddo ddiddordeb brwd mewn CAD/CAM, ac mae wedi mynd yn ei flaen i ddatblygu modelau 3D amrywiol ar gyfer cynhyrchion.

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Dan gan ei fod yn berson trefnus a hyblyg sy’n gallu meddwl yn feirniadol. Mae wedi cyflawni cynnydd mawr ers iddo ymuno â ni, ac edrychaf ymlaen at weld sut y bydd yn tyfu i mewn i’r cwmni wrth i’w yrfa ddatblygu.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria.

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Russell IPM, ewch i’r wefan: www.russellipm.com.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost