Background Splash

Gan Alex Stockton

naomiandellaBAKERY

Cafodd y rhestr fawr ei bri ei greu gan British Baker, llwyfan ar-lein a chylchgrawn blaenllaw ar gyfer y sector pobi a melysion.

Mae’r anrhydedd yn cydnabod Sleisen Goffi Gwyddelig a gafodd ei ddatblygu trwy gydweithrediad rhwng Coleg Cambria, Bako a Wright’s, rhan o The Compleat Food Group.

Mae’r sleisen foethus yn cynnwys sbwng fanila gyda haenau o garamel coffi a hufen gwirod hufen Gwyddelig – ond y pwnc llosg mwyaf amdano yw sut ddaeth i’r farchnad.

Wedi’i ddatblygu trwy ymgyrch Pobydd Ifanc Bako, prentisiaid Naomi Griffiths ac Ella Muddiman o Fecws Iâl, wedi’i leoli yn safle Hafod yn Wrecsam, oedd y rhai a ddaeth â’r rysáit yn fyw.

Gwnaeth yr ymgyrch herio myfyrwyr i gymryd syniadau am gynnyrch Nadoligaidd o gysyniad yn yr ystafell ddosbarth i gynhyrchiad masnachol llawn, gan roi profiad prin ymarferol o’r diwydiant ar raddfa fawr.

Dywedodd Ella: “Roedd gweld ein syniadau’n symud o fecws y coleg i gael eu cynhyrchu ar raddfa fawr ac yna’n cael eu gwerthu ledled y wlad yn anhygoel. Roeddwn i’n teimlo mor falch pan wnes i ymweld â’r ffatri a gwylio’r llinell gyntaf yn dod oddi ar y llinell gynhyrchu. Mae cael y rhyddid i fod yn greadigol wedi bod yn anhygoel.”

Ychwanegodd Naomi: “Rhoddodd y prosiect yma brofiad go iawn i ni o ddatblygu cynhyrchion newydd, o brofi ryseitiau i’w mireinio ar gyfer cynhyrchu masnachol. Mae gwybod bod pobl ledled y DU yn mwynhau rhywbeth rydyn ni wedi’i greu yn hynod werth chweil, ac mae bod yn rhan o’r rhestr yma o bobyddion gwych ac arloesol ar gyfer 2025 yn fonws ychwanegol.”

Ers agor, mae’r becws hyfforddi wedi tyfu’n lle cymunedol prysur, gan atynnu myfyrwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd gyda’i bara astisan, danteithion melys a chynnyrch tymhorol.

Ar hyn o bryd mae’r ddwy yn astudio ar gyfer eu Diploma Lefel 3 mewn Hyfedredd Pobi ac maen nhw wedi ennill sawl gwobr yn y diwydiant. Cafodd Naomi, o’r Wyddgrug ei henwi’n Seren Addawol yng Ngwobrau’r Diwydiant Pobi, a chafodd Ella, o Gaer, Wobr Hugh Weeks am ei hymroddiad i gefnogi eraill yn y sector.

Daeth rhagor o fomentwm ymhellach pan gynhaliodd Coleg Cambria Gynhadledd Becws Cymru – a fydd yn digwydd eto yn fuan – gan groesawu ffigyrau blaenllaw o ar draws y sector. Yn eu plith nhw oedd cynrychiolwyr o Bako, a oedd wedi eu plesio gan y pobyddion dawnus yn y gynhadledd.

Yn ogystal â’r Sleisen Goffi Gwyddelig arobryn, datblygodd Naomi ac Ella Sleisen Goedwig Ddu wedi’i moderneiddio a Sleisen Nadoligaidd o Gyw Iâr, Brie a Llugaeron. Bydd canran o’r elw yn cael ei ail-fuddsoddi mewn cronfa sy’n cefnogi pobyddion ifanc y dyfodol er mwyn sicrhau bod y fenter yn cael effaith barhaol.

Dywedodd Maria Stevens, Pennaeth Gweithrediadau Masnachol yng Ngholeg Cambria: “Mae’r gydnabyddiaeth yma gan British Baker yn ffordd wych o nodi blwyddyn ragorol. Mae Naomi ac Ella wedi bod yn ganolog i lwyddiant Becws Iâl ac wedi dangos yr hyn y gall talent ifanc ei gyflawni pan maen nhw’n cael y llwyfan cywir.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost