Background Splash

Gan Alex Stockton

Harry Ashfield

Mae Harry Ashfield, a gwblhaodd gymhwyster Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg Cambria Iâl eleni, yn dathlu dyrchafiad o Gynghrair 1 gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

Ar ôl iddo arwyddo cytundeb newydd hyd at ddiwedd tymor 2026/27 yn gynharach eleni, mae’r chwaraewr canol cae campus yn edrych ymlaen yn eiddgar at chwarae yn y Bencampwriaeth, lle byddant yn wynebu timau fel Southampton, Ipswich Town a Leicester City.

Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Darland, dywedodd: “Rwy’n dal mewn sioc ein bod ni wedi llwyddo i gael dyrchafiad deirgwaith yn olynol, o beidio â bod mewn unrhyw gynghrair i fod yn y Bencampwriaeth – mae’n gamp anhygoel.

“Rydw i wedi mwynhau fy amser yng Ngholeg Cambria a chael fy nghynnwys yng ngharfan Clwb Pêl-droed Wrecsam, yr her rŵan ydi parhau i weithio’n galed a gwella a pharhau i ddisgleirio pan ddaw’r cyfle gobeithio.

“Mae hwn yn llwyfan mawr i mi a’r holl chwaraewyr, ond rydyn ni eisoes yn edrych ymlaen at y tymor nesaf ac yn dangos ein bod ni’n perthyn ar y lefel yma.

“Diolch hefyd i’r holl gefnogwyr, sydd wedi bod yn anhygoel eleni fel arfer – mae wedi bod yn brofiad gwefreiddiol go iawn!”

Enillodd Harry Wobr Chwaraewr y Flwyddyn Academi Bob Clark ar gyfer 2023/24 ac mae rheolwr y Dreigiau Cochion, Phil Parkinson, wedi galw arno sawl gwaith y tymor hwn wrth iddo barhau i dyfu ar ac oddi ar y cae.

Tyfodd y chwaraewr 18 oed i fyny yn cefnogi’r clwb y mae bellach yn ei gynrychioli – ac sy’n cael ei gadeirio gan y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney – a sgoriodd ei gôl broffesiynol gyntaf mewn buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Port Vale yn Nhlws Vertu y llynedd.

Meddai Harry am ei gytundeb newydd: “Mae’n deimlad gwych i arwyddo cytundeb newydd gyda fy nghlwb. Rydw i’n edrych ymlaen at weld beth alla’i ei wneud yn y tîm cyntaf – gobeithio y bydda i’n gallu profi fy hun.”

Mae Harry wedi datblygu trwy Academi’r Clwb o’r tîm dan 12 i’r tîm cyntaf, gan wneud ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf ym mis Hydref 2023 yn erbyn Crewe Alexandra.

Parhaodd ei ddatblygiad i gael ei amlygu wrth iddo deithio i TST yng Ngogledd Carolina, cyn ymuno â Thaith Arfordir Wrecsam o’r UDA a Chanada.

Dywedodd y Rheolwr Phil Parkinson: “Hoffwn longyfarch Harry ar ei gytundeb newydd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld ei ddatblygiad.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost