main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

EsportsCambria2

Mae’r rhaglen E-chwaraeon poblogaidd yng Ngholeg Cambria wedi dod yn fwy poblogaidd ac yn denu dysgwyr o bob rhanbarth i gyfleuster wedi’i deilwra, o’r radd flaenaf yng Nglannau Dyfrdwy.

Yn ogystal â chwblhau modiwlau mewn meysydd fel Dylunio Gemau, Darlledu Ffrydio’n Fyw, Cynhyrchu Brand E-chwaraeon, a Chynhyrchu Fideos fel rhan o’r Diploma Lefel 2, mae Diploma Lefel 3 mewn E-chwaraeon – Menter a Marchnata Digidol wedi cael ei ddatblygu.

Mae E-chwaraeon yn sector sy’n ffynnu a werth biliynau o ddoleri, a gyda chriw Cambria Chimeras yn cystadlu – ac yn ennill – ym Mhencampwriaeth Myfyrwyr E-chwaraeon Prydain, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair i’r cymhwyster newydd.

Mae’r coleg wedi cael ymweliadau gan sgowtiaid talent a oedd yn cynrychioli rhai o sefydliadau gemau gorau’r byd a thimau proffesiynol, fel Excel Esports.

Mae Lauren Crofts yn ddarlithydd E-chwaraeon ac yn chwaraewr gemau brwd, dywedodd hi: “Mae’r adborth wedi bod yn anhygoel ers y dechrau, ac i mi yn bersonol mae’n arbennig fy mod i’n cael darlithio mewn rhywbeth dwi mor angerddol amdano.

“Mae E-chwaraeon yn ddiwydiant mawr a bydd yn parhau i dyfu, felly mae’r ffaith bod Cambria ar flaen y gweddill wrth addysgu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr gemau cystadleuol a gweithwyr mewn diwydiannau perthnasol – sy’n gallu cynnwys dylunio a marchnata i fenter, seicoleg chwaraeon, rheoli digwyddiadau a TG – yn ein rhoi ni mewn lle cadarn iawn.”

Ychwanegodd hi: “Mae gan y cyrsiau dros 40 o fyfyrwyr dros ddwy flynedd, ac rydyn ni’n rhagweld y nifer yn tyfu oherwydd yr holl ddiddordeb sydd wedi bod yn y cwrs.

“Bydd fy nghydweithwyr a minnau yn parhau i ddatblygu ac arwain y dysgwyr tuag at yrfaoedd a fydd yn manteisio ar y sgiliau y maent yn eu hennill yma, oherwydd mae’r DU yn dechrau dal i fyny gyda rhannau eraill o’r byd i sylweddoli bod hwn yn gyfle dilys, cynaliadwy, hirdymor i bobl ifanc archwilio a ffynnu ynddo.”

Cafodd y rhaglenni dwy flynedd eu creu gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain a chorff dyfarnu Pearson.

Mae disgwyl i raddedigion symud ymlaen at addysg uwch neu ddod yn hunan-gyflogedig a lansio eu sianel ffrydio neu lwyfan cynnwys eu hunain.

Yn ôl Cymdeithas E-chwaraeon Prydain, mae’r diwydiant wedi creu miloedd o swyddi newydd ledled y byd, ac mae’r nifer hynny’n codi trwy’r amser.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria, Suzanne Barnes, fod eu harlwy academaidd yn esblygu am byth i ddiwallu anghenion diwydiant a datblygiadau mewn technoleg, gyda chymorth gwneuthurwr blaenllaw a manwerthwr rhyngwladol perifferolion e-chwaraeon, HyperX, sy’n noddi’r cwrs.

Ychwanegodd hi: “Mae’n bwysig iawn ein bod ni fel coleg yn darparu cymwysterau sy’n berthnasol i’r economi newydd i’n dysgwyr.

“Mae cymaint o sgiliau trosglwyddadwy ar y cyrsiau hyn a fydd yn eu galluogi nhw i symud ymlaen i nifer o yrfaoedd ar ôl iddyn nhw adael Cambria.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda pha mor dda y mae dysgwyr a’r gymuned wedi cefnogi’r Diplomâu hyn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar hynny yn y blynyddoedd i ddod.”

Am ragor o wybodaeth am E-chwaraeon yng Ngholeg Cambria, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost