Mae dros 50 o ddysgwyr wedi cofrestru ar draws Lefelau 2 i 4, gyda niferoedd yn tyfu’n gyson ers i’r pwnc gael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y coleg yn 2021.
Mae Cambria wedi gweld ei fyfyrwyr cyntaf yn symud ymlaen i addysg uwch a swyddi yn y diwydiant yn barod o fewn sector sydd wedi dod yn ffenomen fyd-eang, gwerth biliynau o ddoleri.
Erbyn hyn gallai dysgwyr astudio ar Lefel 4 a 5 sy’n cyfateb i brifysgol trwy bartneriaeth Coleg Cambria â Pearson, sydd wedi’i leoli ar ei safle Glannau Dyfrdwy.
Yn 2024, datgelodd Cambria gyfleuster E-chwaraeon newydd sbon gwerth £230,000, un o lond llaw o gyfleusterau o fewn addysg uwch y DU. Wedi’i arfogi gyda 36 gorsaf gemau YOYOTECH fanyleb uchel wedi’u pweru gan broseswyr Intel 17 a chardiau graffeg RTX4070, ynghyd â pherifferolion MSI a monitorau AOC pro, bydd y cyfleuster o’r radd flaenaf yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddysgwyr.
Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Astudiaethau Technegol, Lisa Radcliffe: “Mae’r buddsoddiad anhygoel yma wedi cadarnhau enw Cambria fel arloeswr addysg E-chwaraeon yn y DU.
“Mae’r cyfleusterau’n broffesiynol, hyblyg ac wedi’u dylunio ar gyfer cystadlu, addysgu, a digwyddiadau. Rydyn ni’n falch o roi’r cyfle i’n dysgwyr ni i gyrchu technoleg o’r radd flaenaf sy’n eu paratoi nhw ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil.”
Mae Chimeras Cambria, tîm cystadleuol y coleg, wedi gwneud ei farc ar y llwyfan cenedlaethol yn barod. Enillodd y sgwad Gwpan y Gwanwyn Apex Legends yng Nghynghrair Pencampwyr Myfyrwyr ac yn ddiweddar daethon nhw’n ail yng nghystadleuaeth Valorant, cafodd y ddau eu trefnu gan Ffederasiwn E-chwaraeon Prydain.
Canmolodd y darlithydd E-chwaraeon Lauren Crofts ymroddiad y garfan, a oedd yn cynnwys Richie Smith, David Tas, Tom Low, Adam Parkes, a Niall Thomas, gyda chefnogaeth gan yr is-reolwr a rheolwr y tîm, Kyle Tarran.
“Rydyn ni mor falch o ba mor galed mae’r myfyrwyr wedi gweithio – roedd y rownd derfynol yn dynn iawn ac yn gofyn am fisoedd o ymarfer a gwaith tîm,” meddai hi.
“Ar gyfer Kyle yn benodol, mae cystadlu a rheoli’r tîm cyn symud ymlaen i’n cwrs Lefel 4, wedi bod yn llwyddiant anhygoel.”
Mae’r coleg hefyd yn edrych y tu hwnt i’w waliau ei hun i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent. Mae cynlluniau yn eu lle i wahodd ysgolion ar draws y Gogledd Ddwyrain i gymryd rhan mewn twrnameintiau ar eu safle Glannau Dyfrdwy, gan roi profiad rheoli digwyddiadau gwerthfawr i fyfyrwyr lefel uwch.
Dywedodd darlithydd E-chwaraeon Tom Crofts: “Mae yna gymaint o ddiddordeb gan bobl ifanc, ac mae hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw weld E-chwaraeon fel llwybr go iawn i yrfaoedd – ddim chwarae gemau yn unig, ond meysydd fel marchnata digidol, darlledu, hyfforddi, creu cynnwys, a rheoli digwyddiadau. Mae’r cyfleoedd yn enfawr.”
Caiff y rhaglen ei chyfoethogi’n rhagor gan siaradwyr gwadd, partneriaethau gydag arweinwyr y diwydiant fel Chillblast, ac ystod eang o fodiwlau gan gynnwys cynllunio digwyddiadau, marchnata digidol, ffrydio, menter, a llesiant i chwaraewyr.
Wrth edrych ymlaen, mae gan y coleg ddyheadau i’w dysgwyr i gystadlu un diwrnod ar lwyfan y byd, gydag E-chwaraeon ar y trywydd i ymddangos yn y Gemau Olympaidd.
“Efallai ei bod hi dal yn ddyddiau cynnar i ni, ond rydyn ni wedi cymryd camau enfawr,” ychwanegodd Lauren.
“Gyda chefnogaeth barhaus sefydliadau fel E-chwaraeon Cymru ac ymroddiad ein myfyrwyr, mae’r dyfodol yn ddisglair iawn.”
Am ragor o wybodaeth am E-chwaraeon yng Ngholeg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk.