main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

AspiringLeaders2

Lansiwyd rhaglen Darpar Arweinwyr y coleg ym mis Medi, gyda’r nod o hyrwyddo cynllunio olyniaeth, annog staff angerddol, rhagweithiol a brwdfrydig, ac adeiladu perthnasau gwaith cryfach fyth rhwng gweithwyr ar draws safleoedd y coleg yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi.

Cwblhaodd y garfan gychwynnol o 13 gyfres o fodiwlau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) fel rhan o’r broses ar themâu oedd yn cynnwys Mentora ac Annog, a Datblygu Eich Hun ac Eraill.

Wrth eu llongyfarch ar yr hyn a gyflawnwyd, dywedodd y Prif Weithredwr Yana Williams: “Y prif nod yw datblygu ein gweithlu ac yn bwysig, canolbwyntio ar bwy sydd am fod yn rheolwr, pa faes y maen nhw am weithio ynddo a sut y gallwn ni eu helpu i gyrraedd eu nod.

“Mae rhai pobl yn hapus yn yr hyn maen nhw’n ei wneud ac yn gweddu i’w swyddi, mae rhai eisiau tyfu’n broffesiynol ac arwain eraill, felly fel darparwr addysg mae’n hanfodol ein bod ni’n ceisio annog a buddsoddi yn ein staff.

“Yn y pen draw, rydyn ni am iddyn nhw gyflawni eu gorau glas, a fydd wedyn yn cael effaith gadarnhaol ar ein myfyrwyr a’r gymuned.”

Ychwanegodd: “Bydd y rhaglen yn rhedeg bob blwyddyn ac yn chwarae rhan fawr yn ein gwaith o gynllunio olyniaeth drwy greu cronfa o arweinwyr y dyfodol.

“Rydyn ni eisoes wedi gweld mwy o gysylltiad rhwng ein safleoedd, a rheolwyr yn cysylltu â’i gilydd os oes ganddyn nhw broblem, er mwyn rhannu arfer gorau a chynnig arweiniad a chefnogaeth, sydd ond yn gallu gwella cyfathrebu.

“Bydd hyn i gyd yn chwarae rhan fawr yn nyfodol Coleg Cambria, sy’n gyffrous iawn – rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu grwpiau pellach yn y blynyddoedd i ddod.”

Ymhlith y rhai a raddiodd o raglen gychwynnol y Darpar Arweinwyr oedd y Swyddog Hyfforddiant Technegol Matt Kinnear, sydd wedi’i leoli yn Airbus, Brychdyn, a Sarah Grundy, Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith ac Asesydd NVQ yng Nglannau Dyfrdwy.

Meddai Matt: “Mae’r cwrs hwn yn ategu fy mhrofiad yn y diwydiant a’r cymwysterau technegol rwyf wedi’u hennill; roeddwn i’n chwilio am rywbeth arall i ychwanegu at y momentwm hwnnw ym maes busnes a rheolaeth, felly mae hyn wedi bod yn wych gan ei fod yn uniongyrchol gysylltiedig â systemau a phrosesau’r coleg.

“Mae wedi ychwanegu strwythur at fy ngwaith prosiect ac mae wedi bod yn gyfle gwych i rwydweithio a chwrdd â phobl o wahanol rannau o’r sefydliad, gan archwilio lle mae ’na heriau a datrysiadau ar y cyd.”

Ychwanegodd Sarah, sydd wedi bod gyda Cambria ers 15 mlynedd: “Fe wnes i gofrestru gan ’mod i eisiau cymryd y cam nesaf yn fy ngyrfa ac roedd yn gyfle delfrydol i ddysgu mwy am arweinyddiaeth a rheolaeth mewn addysg a’r sector cyhoeddus.

“Roedd cyfraniad yr anogwyr a’r mentoriaid yn sylweddol gan fod gan bob un ohonyn nhw wahanol arddulliau a chefndiroedd amrywiol, felly roedd yn brofiad gwerthfawr a phleserus.”

Am newyddion a gwybodaeth o Goleg Cambria, ewch I’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Gall staff sy’n dymuno ymuno â rhaglen y flwyddyn nesaf anfon e-bost at bethan.white@cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost