main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

Bydd y digwyddiad bythol boblogaidd Olwynion Ffordd y Bers yn dychwelyd i safle Ffordd y Bers y coleg yn Wrecsam ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf rhwng 10am-3pm
BershamWheels1

Bydd y digwyddiad bythol boblogaidd Olwynion Ffordd y Bers yn dychwelyd i safle Ffordd y Bers y coleg yn Wrecsam ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf rhwng 10am-3pm

Mae’r ganolfan beirianneg gwerth £10m wedi croesawu miloedd o bobl i ddathlu popeth sy’n ymwneud â moduro dros y tair blynedd diwethaf, ac mae’n edrych yn debyg mai rhaglen yr haf hwn fydd y mwyaf a’r gorau eto.

Bydd detholiad o chwaraeon a cherbydau clasurol yn cael eu harddangos, gan gynnwys Morris Minor 1966, Mercedes SLK, ceir drifftio, TVR, Audi R8, Rover Tomcat, Honda Civics, Vauxhall Senator 24V yr heddlu, injan dân a mwy.

Bydd detholiad o Fords â mwy o gic ynddynt yn cael eu harddangos hefyd, o Fiestas i’r Focus Mk 2, a gall ymwelwyr fwynhau teithiau tywys o’r safle, arddangosfeydd a sioe fasnach.

Bydd lluniaeth i bobl ac anifeiliaid anwes yn cael ei darparu gan amrywiaeth o faniau ac allfeydd bwyd, diod a hufen iâ, gan gynnwys bar coffi Pop-up Joe, Griff’s BBQ Big Ribs, Fudgelicious, Refillosaurus, Indie’s Natural Dog Treats a llu o fusnesau lleol eraill

Mae Karl Jackson, Pennaeth Cynorthwyol y Sefydliad Technoleg yn Ffordd y Bers, yn gobeithio gweld llawer o bobl yno ar y diwrnod.

“Efallai bod y thema yn canolbwyntio ar geir, beiciau modur a detholiad o gerbydau clasurol ac unigryw, ond mae hefyd yn gyfle i ddod â’r gymuned ynghyd ar ôl blynyddoedd digon heriol,” meddai Karl.

“Hwn yw’r trydydd digwyddiad Olwynion Ffordd y Bers ac mae pob un wedi bod yn fwy na’r un blaenorol felly edrychwn ymlaen at groesawu’r torfeydd unwaith yn rhagor ar gyfer ein digwyddiad gorau eto.

“Mae gennym ni fwy o geir, mwy o stondinau bwyd a diod, cerbydau clasurol a mwy diddorol, ynghyd â cherddoriaeth fyw ac adloniant, ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim.

“Felly dewch i ymuno â ni am yr hyn sy’n argoeli i fod yn ddathliad campus o bŵer, cyflymder a hwyl i’r teulu – welwn ni chi yno!”

I gofrestru eich lle, ewch i Bersham Road Wheels Event Tickets, Sat 8 Jul 2023 at 10:00 | Eventbrite.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost