main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Deputy Chief Executive & Principal, Sue Price smiling.

Mae staff wrth law i siarad ag unrhyw un sy’n bryderus am eu graddau ac i drafod yr opsiynau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar safleoedd y coleg yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi, lle mae amrywiaeth eang o gyrsiau a chymwysterau galwedigaethol ar gael.

Bydd staff ar gael i ateb cwestiynau am arholiadau ac unrhyw faterion arall hefyd.

Dywedodd pennaeth y coleg Sue Price eu bod nhw’n cael llif o geisiadau yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod gan ysgolion ledled y rhanbarth.

“Byddwn ni yma ar gyfer unrhyw un sydd angen rhagor o wybodaeth ar gyfleoedd yn Cambria, ac i’r rhai sydd angen cyngor ar Safon Uwch, cyrsiau technegol, prentisiaethau neu gymwysterau yn y gwaith,” meddai hi.

“Mae gennym ni lu o gyfleoedd ar gael, mae’n bwysig trafod a darganfod y canlyniad sydd orau i chi.”

Ychwanegodd Mrs Price: “Yn fwy pwysig na dim, yn sgil yr heriau dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni eisiau helpu tawelu meddwl rhieni a phlant, trafod y cam nesaf a’u helpu nhw drwy’r broses.

“Mae gennym ni dîm anhygoel o ddarlithwyr a staff cymorth sy’n fwy na parod i helpu.

“Mae Coleg Cambria yma i chi, felly cysylltwch â ni i ddarganfod rhagor.”

Yn ogystal â siarad dros y ffôn mae’n bosib sgwrsio gyda ni yn fyw ar-lein. Gall dysgwyr a’u teuluoedd weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y coleg.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan www.cambria.ac.uk neu ffoniwch 0300 30 30 007.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost