main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Er mwyn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae sesiynau wedi bod yn canolbwyntio ar bositifrwydd a gwytnwch, ymdopi gyda straen arholiadau. Yn sgil y pandemig ac yn dilyn cyfnodau o hunan ynysu yn y cyfnod clo, mae’r cyfryngau cymdeithasol ac iechyd meddwl, dewisiadau bwyd a thymer, a meddwlgarwch wedi bod yn ganolbwynt hefyd.

Mae gweithdai rhyngweithiol wedi cael eu cynnal yn Llysfasi, Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Iâl a Ffordd y Bers yn Wrecsam, ac yn cael eu recordio er mwyn i’r rhai sydd wedi methu’r sesiynau allu gwrando’n ôl arnynt yn eu hamser eu hunain.

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cydweithrediad gan Donna Welsh, cydlynydd Cambria Heini, elusen atal hunanladdiad Parypus UK, Sorted Sir y Fflint sef grŵp cefnogaeth cyffuriau ac alcohol, a Bloom, sefydliad ledled y DU sy’n hyrwyddo gwytnwch iechyd meddwl.

Nadia Jones sef Ymarferydd Iechyd Meddwl a Llesiant a Leah Mount Cydlynydd Iechyd Meddwl a Llesiant a oedd yn arwain yr agenda. Roedd yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau mewn gwahanol feysydd gan gynnwys crefft, triniaethau harddwch, disgo tawel ac ymweliadau gan fan hufen ia, bingo meddwlgarwch, ymwybyddiaeth seiber, cydraddoldeb ac amrywiaeth, arddangosiadau adar, paentio gyda rhifau enfawr ac ysgrifennu caneuon.

“Mae wedi bod yn wythnos gadarnhaol iawn ac rydyn ni wedi cael llawer o adborth gan staff a dysgwyr sydd wedi gweld budd o’r sesiynau ac wedi’u mwynhau’n fawr,” meddai Nadia.

“Roedd digwyddiadau’r llynedd yn rhithwir, felly mae wedi bod yn wych cael dod â phobl at ei gilydd wyneb yn wyneb yn ddiogel. Roedd yn wych cael hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a darparu cyngor ac arweiniad i’r rhai sydd ei angen, yn enwedig yn sgil heriau’r pandemig.”

Mae dosbarthiadau ffitrwydd corfforol a llesiant wedi cael eu cynnal ar draws safleoedd Cambria yn y gogledd ddwyrain. Roedd y dosbarthiadau’n cynnwys ioga, tenis bwrdd, Pilates, pêl-foli a badminton.

Ychwanegodd Leah: “Mae cymaint o wahanol ffyrdd i ni fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl a darparu datrysiadau. Felly mae cael lefel uchel o ymgysylltu o feysydd amrywiol yn y coleg a’r gymuned leol yn wych.

“Rydyn ni wedi ceisio canolbwyntio ar y pethau mae myfyrwyr wedi cael trafferth gyda nhw dros y ddwy flynedd diwethaf, un her oedd dysgu o bell ac arholiadau’n cael eu canslo. Gan fod arholiadau’n cael eu cynnal eto, mae’n gyfnod pryderus i lawer ohonyn nhw, felly rydyn ni yma i helpu, yr wythnos yma a drwy gydol y flwyddyn.

“Diolch i bawb sydd wedi ein helpu ni i gyflawni hyn ac rydyn ni’n gobeithio bod y dysgwyr a’r staff yn teimlo fod gweddill y rhaglen yn ddiddorol ac yn fuddiol.”

Am ragor o wybodaeth am weithgareddau eraill sydd i ddod yr wythnos yma a sut i ddal i fyny gydag unrhyw beth rydych chi wedi’i fethu, ewch iwww.cambria.ac.uk/web/health-and-wellbeing.

Ewch i www.mentalhealth.org.uk am ragor o wybodaeth am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a’r Sefydliad Iechyd Meddwl.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost