main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Skills1

Enillodd y coleg 18 pwynt gyda thair medal aur a dwy fedal arian.

Cafodd y categorïau eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ledled y wlad – gan gynnwys safle Ffordd y Bers Coleg Cambria yn Wrecsam.

Mae rhai o’r enillwyr yn cynnwys:

Cynnal a Chadw Awyrennau: Aur – Rosie Boddy, Airbus UK; Arian – Tymoteusz Rozanski

Therapydd Harddwch: Arian – Caitlyn Lawton

Ymarferydd Therapi Harddwch: Aur – Isabella Bailey

Technegydd Seilwaith Rhwydwaith: Aur – Cameron Thompson

Mae Prif Weithredwr Cambria, Yana Williams yn eu llongyfarch ac wyth o gynrychiolwyr y coleg yn rownd derfynol WorldSkills.

“Maen nhw’n gaffaeliad i Goleg Cambria ac rydyn ni’n hynod o falch ohonyn nhw – da iawn i bob un ohonoch chi,” meddai.

Ychwanegodd Rheolwr Profiad Dysgwyr a Menter Rona Griffiths: “Mae hyn yn gamp ryfeddol unwaith eto ac yn dyst i’r hyfforddiant arbennig, datblygu sgiliau a safon ein staff.

“Dwi’n diolch yn fawr iawn iddyn nhw am arwain 143 o gystadleuwyr Coleg Cambria mewn 25 digwyddiad hyfforddi sgiliau eleni, mae hynny’n rhyfeddol. O ganlyniad i hynny rydyn ni’n bedwerydd yn y DU ac ail yng Nghymru, sy’n ganlyniad arbennig.

“Does dim un yn dod yn ôl yr un fath ar ôl cystadlu mewn cystadleuaeth sgiliau. Rydyn ni’n dysgu rhywbeth am ein hun o sut rydyn ni’n ymddwyn dan bwysau i’r hyn rydyn ni’n gallu ei wneud a sut gallwn ni wella yn y dyfodol, ac mae hynny’n cynnwys tiwtoriaid, beirniaid a threfnwyr.

“Gallwn ni ddysgu o’r profiad yma a defnyddio’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar gyfer profion a heriau yn ein bywydau a’n gyrfaoedd yn y dyfodol.”

I gael rhagor o fanylion am WorldSkills, ewch i’r wefan: www.worldskills.org.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r gwybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost