main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Coleg Cambria launched new complementary therapy programmes to help meet a surge in demand for highly trained health and beauty professionals.

Cyn agor yr adeilad iechyd a llesiant gwerth £14 miliwn y flwyddyn nesaf, mae safle Iâl y Coleg yn Wrecsam wedi lansio Diplomâu Lefel 3 a Lefel 4 mewn Adweitheg a Thylino, a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd.

Wedi’u hanelu at y rheiny sydd eisoes yn gweithio mewn swydd therapi harddwch neu bractis preifat, yn hunangyflogedig neu’n edrych am newid gyrfa, bydd y cyrsiau byr yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol a gallent arwain at swyddi posibl mewn amgylchedd clinig, sba neu westy, hosbis, ysbyty, neu leoliad gofal iechyd.

Dywedodd Gemma Jones, Darlithydd Therapi gyda dros 20 o brofiad yn y sector, y byddant yn helpu i fodloni’r galw am ymarferwyr cymwys a medrus ledled y Deyrnas Unedig.

“Mae’r rhaglenni’n hyblyg, yn un diwrnod yr wythnos ac wedi’u hamseru’n dda iawn o ystyried y cynnydd yn y galw am y triniaethau hyn,” meddai.

“Bydd y rheini sy’n ymuno gyda ni’n datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd ganddyn nhw’n barod o’r gweithle, gan ychwanegu atyn nhw i ddod i ddeall anatomi a ffisioleg, iechyd a diogelwch a gofal cleientiaid yn well byth.

“Mae’r cyrsiau hyn hefyd yn cael eu hachredu gan VTCT (‘Vocational Training Charitable Trust’), sydd â rhinwedd werthu unigryw o safbwynt ansawdd, gan ychwanegu bri at ddawn a phrofiad ein staff addysgu.”

Dywedodd Gemma hefyd: “Mae iechyd a llesiant ar flaen meddyliau pawb, ac maen nhw’n cael rhagor a rhagor ar y triniaethau hyn. Ac mae perchnogion busnes yn enwedig yn dymuno gwneud y gorau o hynny, ond dydyn nhw’n methu gwneud hynny os nad ydy eu staff wedi eu hyfforddi i’r lefel iawn – mae rhai’n gorfod gwrthod cwsmeriaid.

“Mae’r sgyrsiau rydyn ni wedi’u cael gyda phobl yn y sector yn tynnu sylw at angen gwirioneddol am therapyddion cyflenwol cymwys, felly rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i bontio’r bwlch hwnnw.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cwricwlwm ar gyfer Economi, Natalie Cliffe fod y coleg yn falch o gyflwyno’r ddarpariaeth ar ôl y pandemig cyn agor yr adeilad iechyd newydd, a fydd yn cynnwys sba a bar sudd masnachol o safon diwydiant wedi’i ddodrefnu’n llawn, wardiau sy’n efelychu rhai meddygol ac amgylcheddau rhith-realiti.

“Rydyn ni’n gosod y sylfeini ar gyfer y rhaglenni hyn sydd wedi cael eu hail-wampio, ac rydyn ni wedi cael llawer o adborth cadarnhaol yn barod,” meddai Natalie.

“Mae galw mawr yn y sector, a bydd dysgwyr yn ennill profiad amser go iawn mewn amgylchedd masnachol.

“Efallai eich bod chi’n meddwl am ddychwelyd i’r diwydiant, yn gweithio yn y sector iechyd a meddygol ac eisiau newid gyrfaoedd, neu’n rhywun hunangyflogedig neu’n dechrau ar eu siwrnai sydd angen gwella eu sgiliau yn yr amgylchedd gwaith i allu darparu’r gwasanaethau hyn i gleifion ar adeg pan nad oes llawer yn gwneud hynny gan nad ydyn nhw’n llwyr gymwys.

“Os ydy hyn yn berthnasol i chi, rŵan ydy’r amser i chi gymryd y cam ac ymuno gyda ni.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich lle, ewch i www.cambria.ac.uk neu anfonwch e-bost at gemma.jones@cambria.ac.uk.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost