main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

peterlaurence (1)

Fe wnaeth Ysgol Fusnes Llaneurgain ddatgelu cyfres o gyrsiau Lefel 2 a Lefel 3 ar-lein sydd wedi’u llunio i gefnogi’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn eu taith tuag at ‘sero net’.

Wedi’u hachredu gan y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) – y corff proffesiynol mwyaf ar gyfer ymarferwyr amgylcheddol yn y DU ac yn fyd-eang, gyda hyd at 21,000 o aelodau – mae’r rhaglenni Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu a Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Reolwyr wedi ennyn diddordeb ar draws y rhanbarth yn barod.

Eu nod yw rhoi dealltwriaeth i arweinwyr a staff o gyfyngiadau strategol a chyfleoedd y gall cynaliadwyedd amgylcheddol eu darparu.

Yn ôl y darlithydd Peter Laurence, o ystyried y nod cenedlaethol ar gwmnïau’n gostwng eu hôl troed carbon, a llesiant ac iechyd a diogelwch, eu cam naturiol nesaf yw dilyn y cymwysterau hyn.

“Mae’r cyrsiau yn addas i bob sector, gan fod gan bob sector dargedau amgylcheddol – i raddau gwahanol – ac yn ceisio gwneud rhagor i ddod yn gynaliadwy,” meddai.

“Bydd y cyrsiau hyblyg hyn yn edrych ar risg ac effaith, heriau a chyfleoedd ac yn helpu sefydliadau i lywio eu strategaethau hirdymor, boed hynny’n gynnig ar gyflawni statws sero-net – gan ystyried targed Llywodraeth Cymru o fod yn sero-net erbyn 2050 – neu’n bennaf i wella eu harferion gwaith cyfredol.”

Hefyd mae modiwlau’n amlygu pwysigrwydd effeithlonrwydd adnoddau; effaith cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws y gadwyn gwerth; effaith llygredd, ei atal, ei reoli a deddfwriaeth amgylcheddol mewn sefydliadau, a sut mae cyflogeion yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol.

Dywedodd Peter: “Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal dros un a dau ddiwrnod felly mae’n ymrwymiad bach o ran amser, ar gyfer rhywbeth sy’n ffactor mor bwysig ar gyfer unrhyw ddiwydiant. Maen nhw’n cael eu haddysgu o bell ond mae’n bosib eu cynnal wyneb yn wyneb hefyd os oes angen.

“Fe fyddwn ni’n eu cynnal nhw trwy gydol y flwyddyn a ni ydy’r unig goleg i wneud hynny, felly rydyn ni’n gobeithio gweld rhagor o ddiddordeb gan unigolion a sefydliadau yn y misoedd nesaf.”

Mae’r rhaglenni am ddim i unrhyw un cymwys am gyllid PLA (Cyfrif Dysgu Personol): dros 19 oed, yn hunangyflogedig, neu’n gyflogedig ac yn ennill llai na £29,534 y flwyddyn.

Fe wnaeth arolwg barn YouGov a gafodd ei gomisiynu gan IEMA ddarganfod bod 56% o gyhoedd Prydain heb glywed am swyddi gwyrdd, gyda 62% ddim yn deall beth yw ystyr y term sgiliau gwyrdd, a 65% yn dweud nad oes ganddyn nhw unrhyw fynediad at hyfforddiant sgiliau gwyrdd.

Dywedodd Sarah Mukherjee MBE, Prif Swyddog Gweithredol IEMA: “Dwi wir eisiau annog pobl i gofrestru ar gyfer y cyrsiau yma. Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rhaid i ni gael gweithlu sydd wedi cael yr hyfforddiant i bontio i economi gwyrddach. Rydyn ni angen sgiliau gwyrdd ym mhob sector yr economi.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael yng Ngholeg Cambria. 

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost