main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Law students attending lecture in classroom

Mae’r Diploma Cymhwysol Lefel 3 BTEC mewn Troseddeg yn cyfateb i Safon Uwch a bydd yn cael ei  addysgu yng Nghanolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy’r coleg.

Gan ddechrau ym mis Medi, mae’r rhaglen yn cynnwys modiwlau ar gyfansoddiad cymdeithasol  trosedd, datblygu polisi, gwerthuso damcaniaethau trosedd, trosedd a chosb, o safleoedd troseddau i’r llysoedd a chymharu ymddygiad gwyrdroëdig.

Dywedodd Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy, Miriam Riddell: “Roedden ni wedi bwriadu cyflwyno troseddeg ers cyn y pandemig, felly rydyn ni’n falch iawn o allu gwneud hynny o fis Medi ymlaen.

“Rydyn ni wedi penodi athro newydd ac eisoes wedi cael adborth cadarnhaol am y pwnc, sy’n cyd- fynd â’n cymwysterau presennol yn y gyfraith, seicoleg a chymdeithaseg.”

Ychwanegodd: “Mae yna gyfleoedd gyrfa ar gael, o’r heddlu a gwasanaethau prawf i’r sector cyfreithiol a mwy, ac mae modd astudio’r cymhwyster yma ar y cyd â rhai o’n cyrsiau eraill, felly mae yna lawer o hyblygrwydd a sgôp i ddysgwyr barhau i astudio’r pwnc yn y brifysgol.”

Daw’r newyddion wedi i’r coleg gynnal cynhadledd cyfraith lwyddiannus arall, gydag aelodau o Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), barnwyr, cyfreithwyr a bargyfreithwyr yn cwrdd â dysgwyr i drafod llwybrau a chyfleoedd lleoliadau gwaith yn y dyfodol.

Ymhlith y siaradwyr gwadd oedd Simon Gree, Uwch Erlynydd y Goron gyda’r CPS; Thalia Humble, cyn-fyfyriwr yn Chweched Glannau Dyfrdwy sydd ar hyn o bryd yn astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion, ac Alex Riddell, Uwch Gyfreithiwr Masnachol yn Pod Point.

“Dyma’r trydydd seminar cyfraith i ni ei gynnal y flwyddyn academaidd hon ac roedd yn llwyddiant mawr unwaith eto,” meddai Miriam.

“Roedd cyflwyno troseddeg yn gam naturiol i ni gan ei fod yn cyd-fynd yn dda â’r cyfeiriad y mae ein myfyrwyr yn ei gymryd yn y maes hwn, ein cysylltiadau cyflogadwyedd ac o ystyried y sbectrwm eang o swyddi sydd yn y sector.

“Rydyn ni am i’r dysgwyr edrych ar yr holl ffyrdd gwahanol y gallan nhw ymgymryd â gyrfa yn y gyfraith, ac mae hyn yn llinyn arall i’w bwa, wedi’i gefnogi gan ddigwyddiadau fel hyn sy’n berthnasol i’r diwydiant.”

For more information on the BTEC Level 3 Applied Diploma in Criminology, visit Coleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost