main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

Image_20230904_105308_268

A bydd canllaw ar-lein a phrint newydd yn helpu darpar fyfyrwyr i ddewis un o’r cymwysterau proffesiynol a hyfforddiant hyblyg sydd ar gael ar safleoedd y coleg yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llaneurgain a Llysfasi, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol ar draws y rhanbarth.

Wedi’u cynllunio i wella sgiliau gwaith a datblygiad gyrfa, ac annog hobïau, mae rhaglenni sy’n dechrau’r hydref hwn yn cynnwys cwrs canolradd mewn Trefnu Blodau, Cyflwyniad i Wneud Gwaith Cynnal a Chadw eich Hun i Eiddo, Tystysgrif Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) mewn Marchnata Digidol Proffesiynol, Sbaeneg Sgwrsio, Ffrangeg Sgwrsio, Dyfarniad Lefel 2 VTCT mewn Gwasanaethau i’r Dwylo a Chyflwyniad i Seiberddiogelwch – Diogelwch a Diogeledd y Rhyngrwyd.

Ymhlith y sefydliadau achredu sy’n gweithio mewn partneriaeth â Cambria mae IOSH, Llywodraeth Cymru, City & Guilds, Prince2, Lantra, a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru.

Anogodd y Pennaeth Sue Price bobl mewn gwaith neu a oedd yn chwilio am gyfle newydd i gysylltu i gael gwybod rhagor.

“P’un a ydych chi’n chwilio am newid gyrfa, yn gweithio tuag at ddyrchafiad yn eich swydd bresennol neu eisiau cwrdd â phobl newydd a dysgu rhywbeth newydd mae cwrs i bawb yng Ngholeg Cambria,” dywedodd Mrs Price.

“Mae’r canllaw newydd yn dod â’r rheiny i gyd ynghyd ac yn dangos y dewis eang ac amrywiol o raglenni sydd ar gael, yn ogystal â’n cysylltiadau agos gyda diwydiannau a chyrff dyfarnu gorau’r wlad.”

Dywedodd hefyd: “Gall darpar ddysgwyr hefyd ddarganfod a ydynt yn gymwys i gael cyllid drwy Gyfrif Dysgu Personol ac mae cyngor ac arweiniad ar ffioedd a chymorth ariannol, dysgu Cymraeg, cymorth i bobl gydag anableddau, cyfleoedd addysg uwch a phrentisiaethau.

“Mae cymaint o opsiynau ar gael – rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu myfyrwyr rhan-amser newydd yn yr wythnosau nesaf.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost