main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

BiofactoryTeam2 (1)

Mae’r coleg diwydiannau’r tir yn gwneud cynnydd gyda chynlluniau ar gyfer fferm garbon niwtral ac eleni cafwyd toreth o fentrau sero net, gan gynnwys bioffatri chwyldroadol a fydd yn cefnogi ffermwyr Cymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Datgelwyd y system dreulio anaerobig gan Biofactory Energy ac mae’n un o dair menter carbon isel a ariennir ar y cyd gan grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru drwy ei Her Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan (WBRID).

Gan fod pob cwrs Gofal Anifeiliaid yn cael eu darparu yn Llaneurgain erbyn hyn, mae Llysfasi yn canolbwyntio mwy ar amaethyddiaeth, gan alluogi’r safle i barhau i symud ymlaen fel darparwr addysg gynaliadwy o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a’r gymuned.

Dywedodd Elin Roberts, Pennaeth Llysfasi: “Rydyn ni wedi manteisio ar doreth o syniadau a phrosiectau ‘gwyrdd’ arloesol i arwain y genhedlaeth nesaf o ffermio sero net, yn unol â thargedau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

“Mae’r datblygiadau mewn technoleg yn anhygoel, ac mae Cambria ar flaen y gad o ran datblygiadau, gan gyflwyno cysyniadau a fydd o fudd i’n dysgwyr ac i’r sector.

“Dros y degawd nesaf a mwy, bydd y coleg yn parhau i arloesi syniadau a pheiriannau newydd mewn amaethyddiaeth ddigidol a manwl ac ynni adnewyddadwy, ac yn dod yn esiampl o arfer gorau, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled y wlad i sicrhau bod y diwydiant mewn sefyllfa gref wrth symud ymlaen.”

Ychwanegodd: “Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yma yn Llysfasi, boed hynny fel myfyriwr neu’n un o’n staff medrus, ymroddedig, sy’n croesawu ffyrdd o wella effeithlonrwydd, cynhyrchu a rheoli tir, a lleihau allyriadau.

“Mae’r sylfeini’n cael eu gosod ac rydyn ni’n falch o’r cynnydd hyd yn hyn.”

Yn gynharach eleni, agorwyd y bioffatri gan Cambria a Biofactory Energy, wedi’i chynhyrchu o ddau gynhwysydd llong a drawsnewidiwyd yn ffatri brototeip.

Wedi’u henwi yn Neli a Gobaith gan fyfyrwyr y coleg, y nod hirdymor yw i ffermydd llaeth leihau allyriadau o reoli slyri gan ddefnyddio’r dechnoleg, ac i’r system ddod yn fasnachol hyfyw ac yn berthnasol i gynifer o ffermwyr â phosib.

“Mae’n un o sawl datblygiad rydyn ni’n gweithio arnyn nhw ar y cyd ag enwau blaenllaw yn y maes amaeth a bydd yn cael effaith sylweddol ar ddyfodol y diwydiant yng Nghymru,” meddai Elin.

Mae’r diwydiant ffermio llaeth yn ganolog i Ogledd Cymru, gan gyflogi 7% o’r gweithlu ac yn cyfrannu dros £370m i’r economi bob blwyddyn

Ewch i www.cambria.ac.uk am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria Llysfasi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost