main logo
Background Splash

Gan Alex Stockton

IMG_1202

Ymhlith y rhai i gyflawni’r graddau gorau oedd Myfyriwr y Flwyddyn y safle sef Rebecca Jones, sydd wedi llwyddo i ennill graddau A mewn Bioleg, Cemeg a Mathemateg.

Bydd Rebecca yn symud ymlaen i astudio Peirianneg Gemegol ac mae hi’n ystyried ei hopsiynau prifysgol.

“Dwi wedi bod â diddordeb mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg ers erioed a dwi wrth fy modd fy mod i’n symud ymlaen gyda chanlyniadau Safon Uwch cadarnhaol,” meddai’r ferch 18 oed o Ellesmere Port.

“Dwi’n gobeithio gweithio yn niwydiant cynhyrchion fferyllol yn y dyfodol a hoffwn i ddiolch i Cambria am eu harweiniad a’r gefnogaeth dros y blynyddoedd – dwi wedi bod wrth fy modd gyda phob eiliad.”

Yn y cyfamser, mae’r ffrindiau Luke Evans a Heath Kavanagh yn mynd i Brifysgol Durham ym mis Medi.

Mae Luke sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Argoed Luke, o Fynydd Isa, wedi ennill A* mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffiseg ac mae wedi cwblhau tystysgrif Bagloriaeth Cymru (Her Sgiliau).

Mae Luke yn 17 oed ac yn troi’n 18 yfory (dydd Gwener) – bydd yn astudio Mathemateg yn y brifysgol ac mae’n cynllunio symud i faes Ffiseg Ddamcaniaethol a gyrfa mewn cyllid.

Bydd Heath sy’n 18 oed, o Ellesmere Port, yn astudio Cyfrifiadureg ar ôl ennill A* mewn Mathemateg a Mathemateg Bellach ac A mewn Bagloriaeth Cymru a Chyfrifiadureg.

Roedd Amelia Humble, sy’n 18 oed o Fwcle, yn hapus ei byd ar ol ennill A* mewn Mathemateg, Seicoleg a Bioleg, a bydd hi’n mynd ymlaen i astudio Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Leeds, a bydd Keziah Hendive, 18 oed o Rhyl, yn dechrau gradd mewn Nyrsio Plant yng Ngholeg King’s yn Llundain yn dilyn ei graddau – A mewn Seicoleg a Bioleg, a B mewn Mathemateg. Gwnaeth y ddwy gwblhau eu tystysgrifau Bagloriaeth Cymru hefyd.

Llongyfarchiadau hefyd i Erin Roberts, 18 oed, o Gaerwys, cyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd a fydd yn dechrau cwrs 5 mlynedd mewn Milfeddygaeth, i ddechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yna ymlaen i Goleg Royal Vetinary yn Llundain.

Ar ôl cyflawni graddau A mewn Bioleg, Cemeg a Seicoleg, dywedodd: “Dwi wrth fy modd i gael y graddau roeddwn i’w hangen, y freuddwyd rŵan ydi mwynhau fy amser yn y brifysgol ac yna mynd ymlaen i weithio ym maes milfeddygaeth, dyna dwi wedi bod eisiau ei wneud ers erioed.

“Dwi wedi cael llwyth o gefnogaeth gan Cambria, yn enwedig wrth wneud fy nghais a fy natganiad personol, ac roedd fy nheulu wedi cyffroi’n lân – roedden nhw hyd yn oed wedi cyffroi’n fwy na fi!

“Diolch i bawb yn y coleg, mae wedi bod yn brofiad bendigedig.”

Ychwanegodd Pennaeth Chweched Glannau Dyfrdwy Miriam Riddell: “Mae dilyn cyfnod mor heriol i’r myfyrwyr gael canlyniadau mor gadarnhaol yn galonogol. Maen nhw wedi gweithio mor galed, ac rydyn ni’n falch iawn, iawn ohonyn nhw i gyd.”

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost