Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

two female students in an engineering environment for the news story Building the Future Starts Here – Engineering Lecturing Roles Now Open

Mae Coleg Cambria yn hysbysebu amryw o swyddi addysg Peirianneg yn ei Sefydliad Technoleg fawreddog.

Gyda safleoedd yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam mae swyddi gwag ar gyfer Darlithwyr mewn Peirianneg Fecanyddol, Electronig a Thrydanol, Peirianneg Gweithgynhyrchu a Dysgu yn y Gwaith.

Yn ôl adroddiadau mae prinder athrawon STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ledled y DU ar gyfer addysg uwchradd ac uwch. Mae ffocws i atynnu gweithwyr o’r diwydiant i ymuno â’r byd academaidd ac i rannu eu sgiliau a’u profiad gyda’r genhedlaeth nesaf.

Yn ôl Nick Tyson, Is-bennaeth Digidol, Peirianneg ac Adeiladwaith yng Ngholeg Cambria mae’r rhain yn gyfleoedd gyrfaol “pwysig tu hwnt” sy’n mynd i wneud gwahaniaeth i filoedd o ddysgwyr, rŵan ac yn y dyfodol.

“Mewn byd sy’n esblygu’n gyflym mae’r galw yn fwy nag erioed am beirianwyr dawnus sy’n gallu addasu a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, a phwy sy’n well i siapio ein dyfodol ond y rheiny sydd wedi ei gyflawni?” meddai Nick.

“Os ydych wedi adeiladu eich gyrfa yn datrys problemau yn y byd go iawn, arwain ar arloesi neu reoli systemau cymhleth dylech ystyried y cyfle cyffrous o gamu i addysg bellach.

“Trwy rannu eich gwybodaeth rydych yn ysbrydoli yn ogystal â dysgu.”

“Trwy rannu eich gwybodaeth rydych yn ysbrydoli yn ogystal â dysgu.”
Ychwanegodd: “Rydych yn galluogi’r genhedlaeth nesaf i feddwl yn feirniadol, i arloesi’n gadarn ac i addasu yn sydyn mewn gweithlu hygyrch sy’n newid yn barhaus.

“Mae addysg yn fwy na bod yn yr ystafell ddosbarth yn unig, mae’n amgylchedd deinamig a chydweithiol lle mae arbenigedd yn gallu sbarduno potensial, pontio’r diwydiant â’r byd academaidd a gadael etifeddiaeth barhaol.

“Mae’r effaith yr ydych yn ei gael ar y diwydiant yn lluosogi pan fyddwch yn helpu eraill i ddarganfod eu llwybr.”

Yn ogystal â chyflog cystadleuol a chynllun pensiwn hael mae’r coleg hefyd yn helpu ymgeiswyr llwyddiannus i gyflawni’r cymwysterau addysgu hanfodol sydd eu hangen arnynt.

Mae Coleg Cambria yn hyrwyddo dwyieithrwydd ac mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno eu cais yn Gymraeg neu Saesneg.

Am fwy o wybodaeth ar swyddi Peirianneg yng Ngholeg Cambria: Swyddi Gwag | Porth iRecriwtio Gyrfaoedd Coleg Cambria.

Ewch i www.cambria.ac.uk am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost