main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

llysfasidev1

Wedi’i gefnogi gan dros £5.9m o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Dysgu Llywodraeth Cymru, mae Coleg Cambria yn trawsnewid ei gampws cyrsiau tir yn Llysfasi, ger Rhuthun.

Yn ganolfan o gynaliadwyedd, bydd y coleg yn defnyddio’r cyfadeilad o’r radd flaenaf i arwain ac addysgu’r sector ffermio a’r gymuned leol tuag at arferion amaethyddol arloesol, yn ogystal â chefnogi busnesau annibynnol a defnyddio cig a chynnyrch sy’n cael eu tyfu ar y safle i hybu gweithrediadau economaidd.

Dywedodd yr Athro Tim Wheeler, cadeirydd llywodraethwyr Coleg Cambria, y bydd eu gweledigaeth yn helpu i ddatblygu tirwedd amaeth yn rhanbarth gogledd ddwyrain Cymru a thu hwnt am genedlaethau i ddod.

“Mae’r coleg yn gwneud buddsoddiad sylweddol yn ei safle yn Llysfasi i sicrhau bod yr addysg a’r hyfforddiant mewn amaethyddiaeth a chyrsiau’r tir sy’n cael eu cynnig yno yn adlewyrchu persbectif mentrus wrth i’r diwydiant esblygu i ymateb i’r heriau o ddod yn garbon niwtral,” meddai.

“Bydd myfyrwyr yn mwynhau cyfleusterau rhagorol mewn adeilad o bwys a fydd yn garbon niwtral ei hun.

“Byddan nhw’n cael profiad rhagorol a fydd yn eu paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn economi’r tir, a bydd hynny yn ei dro yn creu canolfan o ragoriaeth i gefnogi ffermio lleol.”

Ychwanegodd yr Athro Wheeler: “Mae’r coleg yn falch iawn o gael hyd at £6m gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cyfrannu dros £3m o’i gronfeydd wrth gefn i gario’r fenter bwysig hon yn ei blaen.

“Bydd y buddsoddiad cyffredinol o tua £10m yn sicrhau dyfodol hirdymor, cynaliadwy’r campws ac mae’n gyffrous gweld y cynlluniau hyn yn dwyn ffrwyth.”

Mae’r cynlluniau manwl hefyd yn cynnwys ystafell ddosbarth a mannau cyfarfod newydd bywiog, gweithdy peiriannau, siop swyddi, llwybrau cerdded coedwigol a thirlunio.

Bydd yna hefyd ddigwyddiadau gwybodaeth dwyieithog a sesiynau cynghori i fentora ffermwyr lleol sy’n gobeithio arallgyfeirio a datblygu eu prosesau masnachol eu hunain.

Dywedodd Elin Roberts, pennaeth safle Llysfasi, y bydd yr iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo ymhellach, gan ganolbwyntio’n gadarn ar gyfuno cyfleoedd academaidd, amaethyddol a chymdeithasol i ddysgwyr a’r gymuned.

“Rydyn ni yng nghanol Dyffryn Clwyd ond mae effaith Cambria yn llawer mwy pellgyrhaeddol na hynny,” meddai.

“Mae’r datblygiad hwn yn un blaengar, nid yn unig ar gyfer ffermio ond ar gyfer addysg y tir, gan greu cyfleoedd i fyfyrwyr yn ogystal â chefnogi’r sector wrth iddo symud tuag at systemau arloesol, technolegol a chynaliadwy a chofleidio dulliau newydd.

“Rydyn ni’n falch dros ben o weld y gwaith yn mynd rhagddo ac yn gosod sylfeini ar gyfer cenedlaethau o ddysgwyr y dyfodol.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth diweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost