Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Photography credit Neil Mansfield Photography / Make UK.

Mae’r digwyddiad mawr ei fri, wedi’i drefnu gan MAKE UK – y corff cenedlaethol sy’n cynrychioli sector gweithgynhyrchu’r DU – yn dathlu rhagoriaeth mewn peirianneg, arloesedd a pherfformiad busnes.

Roedd gwobrau rhanbarthol Cymru yn cydnabod y dalent fwyaf disglair o bob cwr o’r wlad, gyda’r enillwyr bellach yn barod i gystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol MAKE UK yn Llundain ym mis Ionawr.

Ymysg y rhai llwyddiannus oedd pum prentis o Goleg Cambria a oedd yn cynrychioli rhai o gyflogwyr mwyaf uchel eu parch yng Nghymru:

  • Prentis Busnes – Seren Addawol – Enillydd: Matthew Hoyland, Airbus Operations
  • Prentis Busnes Blwyddyn Olaf – Enillydd: Robert Pollard, Airbus Operations
  • Prentis Busnes Blwyddyn Olaf – Ail: Jodie Sellers, Airbus Operations
  • Prentis Peirianneg – Seren Addawol – Enillydd: Joe Downes, Teledyne Qioptiq
  • Prentis Peirianneg – Blwyddyn Olaf – Enillydd: Jodie Manning, Airbus Operations

Mae’r canlyniadau rhagorol yma yn dystiolaeth o gryfder partneriaethau rhwng Coleg Cambria a chyflogwyr blaenllaw gan gynnwys Airbus Operations a Teledyne Qioptiq, y mae’r ddau ohonyn nhw’n parhau i fuddsoddi’n helaeth mewn datblygu eu gweithlu yn y dyfodol trwy raglenni prentisiaeth o ansawdd uchel.

Dywedodd Janis Richards, Cyfarwyddwr Rhanbarthol MAKE UK yng Nghymru: “Rydyn ni’n falch o ddathlu’r prentisiaid rhagorol o Goleg Cambria. Roedd eu doniau a’u penderfyniad yn amlwg yng ngwobrau eleni.

“Maen nhw’n cynrychioli dyfodol gweithgynhyrchu yng Nghymru, ac mae eu cyflawniadau yn amlygu’r bartneriaeth hanfodol rhwng addysg, diwydiant a chymunedau lleol wrth gadarnhau dyfodol sgiliau yng Nghymru.”

Mae’r llwyddiant yn cadarnhau enw da Cambria fel un o sefydliadau blaenllaw y DU ar gyfer addysg dechnegol a pheirianneg. Mae’r coleg yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr ledled Cymru a thu hwnt i sicrhau bod dysgwyr yn ennill sgiliau’r byd go iawn, meddylfryd arloesi, a phrofiad proffesiynol y mae’r diwydiant modern yn gofyn amdanyn nhw.

Roedd Nick Tyson, Is-Bennaeth Digidol, Peirianneg ac Adeiladu yng Ngholeg Cambria, yn canmol yr enillwyr, dywedodd: “Rydyn ni’n hynod o falch o’n prentisiaid a’u cyflawniadau yng Ngwobrau MAKE UK. Mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o’u hymroddiad, arweiniad ein staff, a’r partneriaethau cadarn sydd gennym ni gyda chyflogwyr fel Airbus a Teledyne Qioptiq.

“Mae prentisiaethau yn hanfodol ar gyfer dyfodol y sector gweithgynhyrchu, gan sicrhau ein bod ni’n parhau i dyfu gweithlu dawnus ac arloesol sy’n cadw Cymru ar flaen y diwydiant byd-eang.

“Yn Cambria, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio law yn llaw gyda busnesau i ddatblygu’r doniau sy’n sbarduno cynnydd.”

Am ragor o newyddion a gwybodaeth gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk

Am ragor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i Enillwyr Cymru 2025 | Make UK.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost