Background Splash

Gan Alex Stockton

MattEdwards

Yn arwain y ffordd yw mentor a chigydd arobryn, Matt Edwards.

Mae Matt – Ymarferydd Dysgu yn y Gwaith Gweithgynhyrchu Bwyd yn Cambria a chyn enillydd aur WorldSkills DU – wedi bod yn rhannu ei arbenigedd gyda dysgwyr yn barod.

Yn ddiweddar, cefnogodd Gabi Wilson, o Grŵp NPTC yng Nghasnewydd, cyn iddi ymddangos yng nghategori coginio EuroSkills yn Denmarc.

Gwnaeth Gabi a’i thiwtoriaid droi’n benodol i Matt am ei wybodaeth yn y sector a’i brofiad cystadlu, gan gadarnhau ei enw da fel un o arbenigwyr diwydiant mwyaf blaenllaw’r DU.

“Roedd hi’n bleser gweithio gyda Gabi a’i helpu hi i fireinio ei sgiliau cigyddiaeth yn barod at EuroSkills,” meddai Matt.

“Gyda’r Academi Cigyddiaeth yng Ngholeg Cambria, yn fuan mi fyddwn ni’n cynnig dosbarthiadau i gigyddion dan hyfforddiant a chefs a’r cyhoedd hefyd. Y nod ydi arddangos y grefft ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesa’.”

“Bydd yr Academi wedi’i lleoli yn ein cegin hyfforddi o’r radd flaenaf a chafodd ei lansio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Addysgol Savoy yn Iâl yn Wrecsam yn gynharach eleni.

Cafodd y cyfleuster arloesol ei ariannu’n rhannol gan yr Ymddiriedolaeth ac mae wedi’i leoli ochr yn ochr â Bwyty Iâl yn adeilad Hafod y coleg, sydd werth £21 miliwn.

Dechreuodd taith Matt yn 14 oed mewn siop gigydd leol cyn hyfforddi mewn siopau arobryn gan gynnwys Swans Farm Shop (Treuddyn), Jones’s Butchers (Llangollen), a gyda Steve Vaughan ym Mhenyffordd.

Rŵan, o’r tu ôl i’r bloc hyfforddi yn hytrach nag o’r cownter, mae wedi ymrwymo i gefnogi gwaed newydd y sector trwy fentora, cystadlaethau ac allgymorth.

Canmolodd Kate Muddiman, Rheolwr Dysgu yn y Gwaith Cambria, ei effaith: “Drwy gysylltu arbenigedd o wahanol golegau, rydyn ni’n sicrhau bod pobl ifanc yn cael y paratoad gorau posibl i gystadlu’n rhyngwladol.

“Mae addysg sy’n seiliedig ar sgiliau yn ymwneud â chreu cyfleoedd, codi dyheadau, a dangos i ddysgwyr y gall eu crefft agor drysau i lwyddiant byd-eang.”

Ochr yn ochr â’i swydd yn Cambria, mae Matt hefyd yn llysgennad Ysbrydoliaeth Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, gan hyrwyddo’r grefft mewn ysgolion a hyrwyddo proffesiwn sy’n gweld galw cynyddol am ymgeiswyr medrus.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost