Mae’r coleg wedi lansio cyfres o sesiynau Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol yn Sir y Fflint, Wrecsam a Llanelwy, Sir Ddinbych, wedi’u harwain gan Gyfarwyddwr Cwricwlwm Dysgu i Oedolion a Sgiliau Dysgu yn y Gwaith Claire Howells a Swyddog Cyswllt Dysgu i Oedolion, Dean Nolan.
Mae dosbarthiadau’n cael eu cyflwyno mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau allgymorth, gyda lleoliadau newydd fel Hwb Cymunedol y Parc yng Nghlwb Criced Gwersyllt yn ymuno â rhestr sy’n ehangu sy’n cynnwys Canolfan Gymunedol Sandy Lane (Saltney), Canolfan Gymunedol Parkfields, Ash Grove (Yr Wyddgrug), Eglwys Rivertown URC (Shotton), Canolfan Hamdden Plas Madoc (Acrefair) a Llyfrgell Brynteg.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i chwalu rhwystrau a mynd i gwrdd â dysgwyr yn eu hardaloedd lleol,” meddai Claire.
“Wrth gynnal cyrsiau mewn lleoedd cymunedol hygyrch, rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws i bobl o bob oed a chefndir ffitio dysgu i’w bywydau bob dydd. Boed ar gyfer gwaith, astudiaeth bellach neu dwf personol, mae’r sgiliau yma yn agor drysau.”
Mae’r rhaglen yn cynnig cymwysterau Lefel 2, sydd gyfwerth â gradd C TGAU, sy’n ofyniad allweddol ar gyfer cyflogaeth a phrentisiaethau, yn ogystal â dilyniant i addysg bellach ac uwch.
Ochr yn ochr â Saesneg a Mathemateg, mae Cambria wedi ehangu ei gynnig dysgu digidol, gyda chyrsiau mewn Google Suite a Sut i Ddefnyddio Eich Dyfais Tabled sydd erbyn hyn yn cael eu cynnig yn Neuadd Fethodistaidd Gresford, Maximus UK yn Wrecsam, Canolfan Gymunedol Little Acton, Ysgol Maes Y Felin, a rhagor.
“Ers Covid mae’r niferoedd wedi parhau i dyfu, gyda rhai safleoedd yn llawn,” meddai Dean.
“Mae’r gofyn am uwchsgilio yn amlwg. Ein nod ydi bod mor hyblyg â phosib, gyda lleoliadau sy’n gyfleus, wedi’u cysylltu, ac yn gefnogol i bobl sy’n gweithio yn ogystal â’r rhai sy’n ceisio ailymuno ag addysg.”
Daw ehangu’r coleg yn ystod Wythnos Dysgwyr sy’n Oedolion sy’n cael ei chydlynu gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Mae themâu eleni – Lleisiau Dysgwyr, Cydweithio a Chysylltiad, Sgiliau ar gyfer Gwaith a Chynnydd, Sgiliau Hanfodol, ac Iechyd a Llesiant – yn adlewyrchu ysbryd allgymorth cymunedol Cambria.
Mae cyrsiau wedi’u dylunio o amgylch y dysgwr, gyda chynlluniau personol a’r dewis i astudio o bell os oes angen.
Dywedodd y tiwtor Kate Clements: “Dydi pawb ddim ar yr un lefel. Mae’r cymwysterau yma yn gyfwerth â TGAU ond wedi’u llunio gan Sgiliau Hanfodol Cymru. Rydyn ni’n nodi bylchau, boed hynny’n ffracsiynau neu’n atalnodi, ac yn creu gweithgareddau i feithrin hyder gam wrth gam. Mae gan bob dysgwr gynllun unigol sy’n cefnogi eu nodau.”
I Jen Skelly, mae’r dosbarthiadau wedi cynnig cyfle i loywi sgiliau a chysylltu’n gymdeithasol: “Mi wnes i astudio yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam ddegawd yn ôl, ac mae hyn yn ffordd o gadw fy meddwl yn brysur. Mae hefyd wedi bod yn ffordd hyfryd o gwrdd â phobl newydd – a dwi’n mwynhau Mathemateg yn fawr iawn.”
Mae Abbey Humphreys yn defnyddio’r cyfle i baratoi ar gyfer cwrs Gwallt a Harddwch yn Iâl: “Mae gen i gymhwyster Mathemateg yn barod ond roeddwn i eisiau gloywi fy sgiliau cyn dechrau’r flwyddyn nesa’. Mae’r tiwtoriaid yn wych, a dwi’n mwynhau’r cwrs yn fawr iawn, mae’n wirioneddol yn helpu fy hyder.”
Yn y cyfamser, mae Luke Roberts yn gweld y cyrsiau yn hanfodol i’w lwybr gyrfa.
“Dwi’n gweithio fel gweithiwr cymorth i bobl sydd ag anawsterau dysgu, a fy nod ydi dod yn rheolwr cartref gofal,” meddai.
“Mae gen i brofiad a chymwysterau, ond dwi angen Saesneg a Mathemateg i symud ymlaen. Roedd ysgol yn anodd gan fod gen i ddyslecsia, ond mae dysgu mewn grwpiau llai gyda gwybodaeth fer wedi trawsnewid y ffordd dwi’n canolbwyntio. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Mae llwyddiant y cyrsiau yma hefyd yn dibynnu ar bartneriaethau â’r gymuned.
Mae Emma Jones, Rheolwr Hwb Cymunedol y Parc, yn croesawu’r cydweithrediad: “Yn dilyn buddsoddiad diweddar, rydyn ni wedi cynyddu defnydd y ganolfan ar gyfer pobl leol. Mae partneru â Choleg Cambria yn ffordd wych o ymgysylltu â thrigolion a chefnogi addysg, sgiliau a llesiant yn ein cymuned.”