main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

Roedd dysgwyr Coleg Cambria Llysfasi Emma Roberts a Caitlin Mann ymhlith y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Lantra Cymru eleni.

Derbyniodd Emma, 22 oed o Langollen, Wobr Dysgwr Gydol Oes y Flwyddyn y Coleg.

Cafodd Caitlin, sy’n 19 a hefyd o Langollen, ganmoliaeth uchel yng nghategori Dysgwr Ifanc y Flwyddyn y Coleg.

Roedd y ddwy gyn-ddisgybl o Ysgol Dinas Brân yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad – a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Metropole yn Llandrindod – ac yn ddiolchgar i’r tiwtor Rheoli Anifeiliaid Lefel 3 Alex Morgan am eu henwebu.

Mae Emma, sy’n bwriadu astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn y brifysgol o fis Medi ymlaen, â’i bryd ar fynd yn athrawes.

Meddai: “Cafodd fy mam a fy nain eu magu ar ffermydd llaeth ond doeddwn i ddim yn siŵr pa yrfa roeddwn i am ei dilyn nes i mi dreulio cyfnod ar fferm yn gwneud profiad gwaith.

“Roeddwn i wrth fy modd, ac o hynny ’mlaen roeddwn i’n gwybod ’mod i eisiau gweithio ym maes amaethyddiaeth, addysg yn enwedig.

“Dwi’n edrych ymlaen at weld be’ ddaw yn y dyfodol ac roedd yn syndod hapus iawn i mi ennill y wobr hon. Mae wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder i wrth i ’nghyfnod i yn Cambria – sydd wedi bod yn wych – ddirwyn i ben.”

Bydd Caitlin, sy’n gweithio yng Nglanfa Llangollen ac ar fferm laeth, yn dychwelyd i Lysfasi y flwyddyn nesaf i ddechrau cwrs Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth.

Meddai: “Dydw i erioed wedi cael fy enwebu am wobr o’r blaen felly roedd hynny’n hyfryd, ac roedd hi’n noson wych.

“Gan bod llawer o wersi wedi cael eu cynnal ar-lein yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’, a ninnau ddim yn gweithio, mae wedi bod yn gyfnod heriol. Ond mae pethau’n dychwelyd i normalrwydd erbyn hyn diolch byth ac mae’r coleg wedi bod yn gefnogol iawn.

“Dwi’n edrych ymlaen at ddod yn ôl y flwyddyn nesaf a dechrau cymhwyster newydd, a fy nod yn y pen draw ydi gweithio yn y sector llaeth. Mae’r arweiniad a’r cymorth dwi wedi’u cael gan y coleg yn rheswm mawr pam dwi wedi penderfynu dychwelyd, a’r darlithwyr gwych sydd gennyn ni yma.”

Cafodd Emma a Caitlin eu canmol gan Alex am eu diwydrwydd a’u hymroddiad, yn enwedig yn ystod pandemig Covid-19.

“Cafodd y ddwy ddysgwraig eu henwebu am yr un prif resymau, sef eu bod nhw’n weithgar iawn, yn ymroddedig ac yn dangos diddordeb gwirioneddol yn y diwydiant,” meddai.

“Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd iawn, felly roedd yn fraint fawr cael y cyfle i’w henwebu a dathlu eu llwyddiannau gwych. Llongyfarchiadau eto i’r ddwy ohonoch chi, mae eich llwyddiant mor haeddiannol iawn.”

Ychwanegodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd: “Mae holl enillwyr ac ail-oreuon teilwng gwobrau Lantra Cymru eleni, drwy eu hymrwymiad i ddysgu gydol oes, yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i foderneiddio a phroffesiynoldeb y diwydiant amaeth yng Nghymru.

“Mae eich ymdrechion ar y cyd yn helpu ein diwydiant i ddiogelu dyfodol ffermydd teuluol a chymunedau gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Hoffwn longyfarch yr holl enwebeion eleni, yn enwedig ein henillwyr teilwng iawn.

“Rwy’n dymuno’n dda i chi i gyd wrth i chi wneud eich marc ar amaethyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt – mae dyfodol ein diwydiant mewn dwylo diogel iawn.”

Am ragor o wybodaeth am Wobrau Lantra Cymru, ewch i www.lantra.co.uk

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost