main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

KWTpic

Mae’r ardd llesiant ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria wedi ennill gwobr fawreddog gan yr elusen Cadwch Gymru’n Daclus a hynny’n dilyn eu llwyddiant diweddar yng nghategori Busnes y Gwobrau Bionet cyntaf.

Cafodd y wobr Busnes, Caru Cymru (Love Wales), ei chyflwyno i’r tîm Twf Swyddi Cymru+ sy’n gyfrifol am gynnal yr ardal yn ystod y seremoni Gwobrau Cymru Daclus yng Nghaerdydd.

Cawsant eu canmol am drawsnewid ardal wag ar y safle a’i throi yn lle glân, diogel wedi’i llenwi a blodau gwylltion, blychau wedi’u plannu, coed ffrwythau a bocsys cynefin. Yn ogystal â denu bywyd gwyllt mae’r ardd llesiant wedi bod yn hafan i staff a dysgwyr ac mae’n safle ar gyfer sesiynau ymwybyddiaeth amgylcheddol. Mae wedi ysbrydoli adrannau eraill i greu mannau gwyrdd newydd.

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu’r ardal 40 metr sgwâr llai na dwy flynedd yn ôl.  Aeth un o Gymhorthwyr Dysgu Coleg Cambria, Brian Valentine, ati i drawsnewid y safle gyda chriw o ddysgwyr Twf Swyddi Cymru+ a staff ac aelodau o’r Academi Hyfforddeion Adeiladu fel rhan o brosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus.

Dywedodd Brian “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi ennill y wobr hon sydd wedi’i seilio ar ddwy ardal rydyn ni wedi bod yn brysur yn eu plannu ac yn eu hailwylltio.

“Roedd hefyd yn cymryd i ystyriaeth sut mae’r prosiect wedi datblygu ac ymrwymiad ac ethos cyffredinol y coleg tuag at gynaliadwyedd a bioamrywiaeth, sy’n hynod bwysig i bob un ohonon ni.”

Ychwanegodd Samantha Moore, Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ “Roedden ni wrth ein boddau yn clywed bod y prosiect wedi cael ei gydnabod unwaith eto am ei effaith gymdeithasol ac amgylcheddol.

“Mae cynlluniau ar y gweill i wneud rhagor ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy ochr yn ochr â’n staff a myfyrwyr. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael gwahoddiad i fod yn rhan o’r dathliad arbennig hwn o Gymru a’r sefydliadau anhygoel sy’n gwneud gymaint o ymdrech i wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles y blaned – diolch.”

Cafodd grwpiau ac unigolion ledled y wlad eu cydnabod yn ystod y digwyddiad a gafodd ei gyflwyno gan Siân Thomas, sy’n gyflwynydd ar gyfer S4C, a’r cyflwynydd a phodlediwr Chris Jones.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a phartneriaid i wneud Cymru yn lle harddach i fyw ynddi ers hanner canrif eleni. Dywedodd y Prif Weithredwr Owen Derbyshire:

“Mae llawer wedi newid yn ystod yr hanner ganrif diwethaf. Yr hyn sydd wedi aros yn gyson yw’r angerdd a’r ymdrech sydd gan unigolion, grwpiau, ysgolion, busnesau, a phartneriaid eraill y mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cael y fraint o weithio â nhw.

“Maen nhw’n dangos i bawb yr hyn sy’n bosib pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i gyrraedd yr un nod ac rydw i mor falch ein bod ni’n rhan o’r mudiad pwysig hwn o bobl sy’n poeni’n fawr am ein planed ac sy’n cymryd camau i’w hamddiffyn.”

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

I gael rhagor o wybodaeth am Cadwch Gymru’n Daclus a Gwobrau Cymru Daclus, ewch i https://keepwalestidy.cymru/cy/.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost