Gwnaeth dysgwyr Lefel 1 mewn Trin Gwallt o Goleg Cambria Iâl yn Wrecsam wirfoddoli yn nigwyddiad Evening of Dreams, a gafodd ei gynnal yng Nghanolfan Maggie yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Ffansi Ffrogs, sydd wedi’i leoli yn Rhuthun, a Bay Belle Brides o Fae Colwyn. Daeth cleifion, nyrsys oncoleg, modelau ifanc, a chefnogwyr at ei gilydd i godi arian hanfodol ar gyfer yr achos.
O dan oruchwyliaeth darlithydd Geraldine Ireland, treuliodd dysgwyr y prynhawn a’r nos yn darparu gwasanaeth gwallt a cholur i’r modelai a’r cleifion sy’n cael triniaeth ar hyn o bryd.
Ar gyfer y grŵp, roedd yn brofiad gwerthfawr o’r diwydiant ac yn ffordd ystyrlon o roi nôl.
“Mi wnaeth y myfyrwyr weithio’n ddiddiwedd drwy gydol y dydd a’r nos, gan ddarparu gwasanaethau gwallt a cholur rhagorol,” meddai Geraldine.
“Roedd eu hymrwymiad ac ansawdd y gwaith yn rhagorol. Roedd hyn yn gyfle arbennig iddyn nhw i ennill profiad ymarferol wrth gefnogi achos arbennig.”
Roedd Wendy Thompson, Pennaeth Ffansi Ffrogs Prom Experiences, ganmol y grŵp hefyd: “Mae’n wych gweld y merched yn rhoi eu dydd Sadwrn i fod yn rhan o’r digwyddiad yma. Mi wnaethon nhw wneud i bum nyrs oncoleg a dwy glaf canser edrych a theimlo’n arbennig.
“Doedd un ferch heb gael ei gwallt i fyny ers diwrnod ei phriodas. Doedd hi ddim yn meddwl y byddai hynny’n bosib eto. Roedd hi’n teimlo fel ‘person enwog’ – rhoddodd myfyrwyr Cambria ei hyder yn ôl iddi.”
Gwnaeth y dysgwyr gefnogi’r digwyddiad y tu ôl i’r llenni hefyd, gan helpu i baratoi’r lleoliad, gwneud bagiau nwyddau, a helpu’r tîm yn ystod y sioe.
“Roedden nhw’n llysgenhadon gwych ar gyfer y coleg,” ychwanegodd Wendy.
“Roedd gweld eu gwaith yn dod yn fyw ar y llwyfan yn emosiynol, roedd gan lawer o bobl dagrau yn eu llygaid yn gwybod y gwahaniaeth mi wnaethon nhw helpu ei wneud.”
Dywedodd: “Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb a wnaeth gymryd rhan yn nigwyddiad Evening of Dreams, mae’n wych bod y modelau ar y noson wedi cael eu cefnogi gan fyfyrwyr o Goleg Cambria Iâl.
“Mae Maggie’s wedi bod yn darparu cymorth canser arbenigol ar draws y DU ers 30 mlynedd, ond mae ein canolfan yng Ngogledd Cymru wedi bod ar agor ers ychydig o fisoedd yn unig, sy’n gwneud hi’n hyd yn oed mwy arbennig i weld y gymuned yn ein cefnogi ni fel hyn.
“Mae ein cymorth ni am ddim, ac mae ein canolfannau ar agor ar gyfer unrhyw un sy’n byw â chanser, yn ogystal ag i deulu a ffrindiau.
“Rydyn ni’n dibynnu bron iawn yn gyfan gwbl ar roddion gwirfoddol er mwyn cynnal rhaglen lawn o gymorth, o grwpiau cymorth canser i weithdai ymlacio ac ioga. Gallwch chi gael cyngor arbenigol gan Arbenigwr Cymorth Canser, help gyda phryderon ariannol a chymaint rhagor, felly unwaith eto diolch yn fawr i bawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad.”
Am ragor o wybodaeth am Maggie’s, ewch i Maggie’s | Everyone’s home of cancer care.
Am ragor o wybodaeth am Maggie’s, ewch i Maggie’s | Everyone’s home of cancer care.
Ewch i www.cambria.ac.uk i weld y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.
Cymerwch gip ar wefan Ffansi Ffrogs yma: Ffansi Ffrogs: Stunning Prom Dresses in North Wales