main logo
Background Splash

Gan Jack Sutcliffe

worldtastes1 -min

Daeth Charlotte Stanley, perchennog Up a Yard yn Ffynnongroyw, ger Prestatyn, i gymryd rhan yn nigwyddiad Culture Collective Blas y Byd ym mwyty Iâl Coleg Cambria yn Wrecsam.

Gwnaeth Charlotte hyfforddi fel chef ar safle Glannau Dyfrdwy Cambria, a daeth arbenigwr jam a chatwad Valerie Creusailor o Goch and Company a Sabor de Amor sefydlwr Beatriz Albo model rôl Syniadau Mawr Cymru a chynhyrchwr sawsiau Sbaeneg rhagorol i ymuno â hi yn y digwyddiad.

Dywedodd Cydlynydd Mentergarwch ac Entrepreneuriaeth Judith Alexander: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r busnesau lleol yma yn rhoi eu hamser i rannu eu cynnyrch a’u straeon ysbrydoledig am sut wnaethon nhw ddechrau eu busnes gyda ni.

“Mae hi mor ddiddorol eu bod nhw wedi rhannu straeon tebyg, ryseitiau sydd wedi dod o’u teuluoedd traddodiadol a’u cefndiroedd diwylliannol nhw a’r neges i’r cyfranogwyr oedd wrth weithio’n galed gallai unrhyw un ddechrau eu busnes eu hun a bod yn rheolwr arnyn nhw eu hunain.

“Dechreuwch yn fach ac adeiladwch o fanno, gyda chymorth gan y coleg a Syniadau Mawr Cymru.”

Ychwanegodd Tim Feak y Caplan: “Roedd hi’n wych cael gweld ein myfyrwyr yn dysgu am y bwydydd a’r diwylliannau gwahanol wrth gael eu hysbrydoli gan ein hentrepreneuriaid hefyd.

“Mae’r hyn rydyn ni’n gallu ei gyflawni wrth weithio gyda’n gilydd yn rhagorol ac rydyn ni’n hyderus bod llawer o’r bobl ifanc wedi cael eu hysbrydoli, dyna oedd ein nod ni.”

Cafodd digwyddiad cyntaf Culture Collective ei gynnal y llynedd ac roedd yn arddangos bwydydd a diodydd gwahanol o hyd a lled y byd, yn ogystal â cherddoriaeth, dawns, llenyddiaeth, celf a rhagor.

Dywedodd Tim a Judith y bydd y digwyddiadau ysbrydoledig yma yn parhau i hyrwyddo undod a rhyngweithio.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau sydd ar y gweill eleni, anfonwch e-bost at judith.alexander@cambria.ac.uk neu tim.feak@cambria.ac.uk.

Ewch i www.cambria.ac.uk i gael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost