Background Splash

Gan Alex Stockton

ToqueDor

Eleni cyflwynodd cystadleuaeth Nestlé Professional Toque d’Or y Wobr Sbatwla Werdd, anrhydedd arbennig a gyflwynir mewn partneriaeth â Sefydliad Cymdeithasau Cogyddion y Byd a gafodd ei wobrwyo i ddysgwr Coleg Cambria, Victoria Royer.

Yn wreiddiol o Wlad Belg a bellach yn byw yn yr Hob, Sir y Fflint, fe wnaeth Victoria syfrdanu’r beirniaid gyda’i gwybodaeth a’i gallu yn y gwaith blaen tŷ ac wrth greu syniadau a oedd yn dechnegol gadarn ac yn gyfeillgar i’r amgylchedd, “gan arddangos dealltwriaeth eithriadol o rôl cynaliadwyedd o fewn y diwydiant lletygarwch”.

Gan gydbwyso ei hastudiaethau â gwaith mewn gwesty lleol a ‘diwrnodau myfyrwyr yn meddiannu’ ym mwyty poblogaidd y coleg ar safle Iâl yn Wrecsam, fe gymerodd ran mewn nifer o heriau a gweithgareddau.

Roedd y rhain yn cynnwys taith i fferm bartner Nestlé yn Suffolk i edrych ar amaethyddiaeth adfywiol, Ysbyty St Bartholomew, Llundain, a Gwinllan Wyken i glywed popeth am y broses o wneud gwin.

“Mae cynaliadwyedd yn bwysig i mi ac wrth wraidd y gystadleuaeth hon, felly roeddwn i wrth fy modd ac wedi fy synnu i dderbyn y wobr hon, ac i fod y cyntaf i wneud hynny,” meddai Victoria, sydd ar hyn o bryd yn astudio Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Bwyd a Diod.

“Mae wedi bod yn broses ddysgu go iawn, yn enwedig y paru gwin a dŵr, ac roedd y rhagbrofion dros sawl diwrnod, felly roedd llawer o waith ond roedd yn brofiad anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen at roi’r tlws ar ben fy lle tân!”

Ychwanegodd Asesydd a Hyfforddwr/Arddangoswr Cambria, Judith Hudson: “Roedd yn broses drylwyr a dwys ond yn llawn mwynhad ac fe wnaeth Victoria yn arbennig o dda.

“Roedd gennym bedwar dysgwr blaen tŷ a thri dysgwr cefn tŷ a gyrhaeddodd rowndiau rhagbrofol y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yn Efrog – da iawn i chi gyd.”

Wedi’u mentora a’u harwain gan banel nodedig o feirniaid, gan gynnwys y cogydd seren Michelin Adam Handling MBE a’i gyfarwyddwr o flaen tŷ George Hersey, dangosodd y cystadleuwyr terfynol sgiliau, creadigrwydd ac angerdd mewn pynciau fel tarddiad bwyd a sut mae lletygarwch yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cymunedau.

Ymhlith syniadau Victoria oedd ‘wal fyw’ o berlysiau a phlanhigion a blodau bwytadwy, hyrwyddo a chynnal bore coffi ar gyfer elusen leol a chydweithio â sefydliadau fel Incredible Edible.

Dyma Adam Handling yn llongyfarch y cystadleuwyr gan ddweud ei bod yn “gymaint o fraint” bod yn rhan o Toque d’Or, gan ychwanegu: “Roedd yr egni, yr ymdrech, a’r ymrwymiad a ddangosodd y bobl ifanc hyn yn creu argraff wirioneddol ar rywun.

“Mae cystadlaethau fel hyn yn creu gyrfaoedd ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn yn gweld llawer ohonyn nhw eto yn gwneud pethau anhygoel yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Katya Simmons, Rheolwr Gyfarwyddwr Nestlé Professional y DU ac Iwerddon: “Rydym yn hynod falch o gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol lletygarwch, gan weithio law yn llaw â phartneriaid yn y diwydiant i roi profiad ystyrlon a go iawn i fyfyrwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth ar Nestlé Professional Toque d’Or 2025 ewch i: Toque d’Or® Hospitality Competition | Nestlé Professional.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost