Roedd Vik Prusinskaite, 18 oed yn ddysgwr yn Ysgol Uwchradd Cei Connah cyn cofrestru i astudio cymhwyster Lefel 2 yn y Cyfryngau yn Cambria.
Er ei bod hi’n mwynhau’r cwrs roedd yn rhaid iddi basio TGAU Saesneg. Dyma gymhwyster gwyddai Vik oedd yn hanfodol ar gyfer ei haddysg a’i gyrfa.
“Roeddwn i mor agos ar sawl achlysur ac felly roedd cael y radd oedd ei hangen arnaf o’r diwedd yn rhyddhad mawr,” meddai Vik o Gei Connah.
“Mae Saesneg mor bwysig ar gyfer cyfweliadau swyddi ac ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol ac mae pasio’r arholiad wedi codi pwysau enfawr oddi ar fy ysgwyddau. Dwi’n ddiolchgar iawn i Katy Morgan a’r tîm yn Cambria am eu hanogaeth a’u cymorth – ac am ddangos ffydd yn fy ngallu.”
Mae Vik a’i theulu’n dod o Lithwania a bellach yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 yn y Cyfryngau sy’n canolbwyntio ar greu delweddau a chynnwys ac mae hi’n gobeithio mynd i brifysgol y flwyddyn nesaf.
Ar ei rhestr mae Efrog, Lerpwl neu Wolverhampton fel opsiynau posibl gyda’r freuddwyd o ddilyn gyrfa mewn ffotograffiaeth.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad fe dynnodd sylw at sut y gwnaeth newid mewn arddull dysgu wahaniaeth iddi: “Mewn ystafelloedd dosbarth mawr roeddwn i’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio ond roedd bod mewn grŵp llai ac astudio o bell yn rhoi’r cyfle i mi ganolbwyntio’n iawn.
“Gweithiodd y dull hwnnw gymaint yn well i mi a chadw fy niddordeb.”
Yn canmol penderfyniad Vik oedd Katy Morgan, Arweinydd Sgiliau ac Ansawdd gan ddweud: “Mae Vik yn fyfyriwr anhygoel. Dyma hi’n ail-sefyll ei TGAU Saesneg ym mis Mehefin y llynedd a daeth mor agos at ei basio.
“Ceisiodd eto ym mis Tachwedd ac roedd hi bron yna ond gwrthododd roi’r gorau iddi. Dyma ni’n adolygu ei Llafaredd, a’r tro hwn nid yn unig y llwyddodd i basio ond sicrhaodd radd B! Mae hi’n enghraifft wych o wydnwch ac ymrwymiad.”
Mae stori Vik yn ategu ymrwymiad y coleg i gefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i ddulliau dysgu sy’n gweithio iddyn nhw gan roi cyfle i bob dysgwr gyrraedd eu potensial a symud ymlaen at addysg uwch neu gyflogaeth.